Ffermwr llaeth o Sir Benfro, Stephen James, yn annog y diwydiant i achub ar gyfleoedd ar gyfer DPP

0
212
Stephen James, FRAgS, dairy farmer from Gelliolau, Clynderwen, Pembrokeshire.

Mae datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn ofyniad gorfodol a ragwelir ar gyfer pob busnes fferm yng Nghymru sy’n ymuno â Chynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) arfaethedig Llywodraeth Cymru. Mae’r fersiwn o’r SFS sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd ac sydd i fod i gychwyn ar 1 Ionawr y flwyddyn nesaf yn cynnwys y gofyniad i gwblhau o leiaf chwe awr o ddysgu, ynghyd ag elfen o Iechyd a Diogelwch, bob blwyddyn, ar gyfer pob busnes.

Dywed Stephen James, FRAgS, ffermwr llaeth adnabyddus o Gelliolau, Clunderwen, Sir Benfro fod hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i fyd amaeth yng Nghymru. Croesawodd Mr James ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad diwethaf yr SFS, a arweiniodd at benderfyniad i wneud y gofyniad o ran hyfforddiant yn fwy hyblyg a chynhwysol drwy gynnwys cyrsiau byr, modiwlau hyfforddiant ar-lein, presenoldeb mewn diwrnodau arddangos, grwpiau trafod a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth eraill sy’n gymwys ar gyfer DPP.

“Bydd ymrwymo i ddysgu yn helpu i sicrhau bod gan ffermwyr a phawb sy’n gweithio yn niwydiannau’r tir y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y dirwedd wledig sy’n newid yn gyflym heddiw,” meddai Mr James, a enillodd Wobr Cyfraniad Oes Lantra Cymru yn ddiweddar.

“Mae’r rhan fwyaf o alwedigaethau’n mynnu rhyw lefel o DPP a bydd y dull hwn o weithredu o fudd sylweddol i amaethyddiaeth Cymru, gan helpu ffermwyr i aros yn hyfyw, yn wydn ac yn gystadleuol.

“Beth bynnag yw ein hoedran a pha mor brofiadol yr ydym ni, mae’r cyfrifoldeb arnom ni fel diwydiant i gael y meddylfryd sy’n croesawu datblygiad personol, sydd yn ei dro yn arwain at ddatblygiad busnes.”

Bydd cydweithio yn creu sector proffesiynol, effeithlon a chynaliadwy

“Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyfoeth o gymorth i fusnesau gwledig a diolch i sefydliadau gan gynnwys Cyswllt Ffermio, Lantra Cymru, ein byrddau lefi ac eraill, mae’r diwydiant yn cydweithio i greu sector amaeth sy’n fwy proffesiynol, effeithlon a chynaliadwy sy’n gallu addasu i bolisïau newidiol a gofynion y farchnad wrth gyflawni’r safonau uchaf o stiwardiaeth amgylcheddol.

“Os byddwn yn methu â manteisio ar yr holl gymorth hwn a pheidio â dysgu am arloesi, buddsoddi mewn technolegau newydd, mabwysiadu arfer gorau a dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon, cost-effeithiol o reoli tir, da byw a busnes yn gynaliadwy, rydym mewn perygl o golli allan yn y marchnadoedd sy’n datblygu heddiw.

“Er mwyn diogelu dyfodol ffermydd teuluol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae angen i ni ganolbwyntio ar ffermio’n gynaliadwy a chydymffurfio â rheoliadau, ochr yn ochr â gweithio tuag at berfformiad busnes cryfach a chyflawni’r lefelau cynhyrchiant gorau posibl,” meddai Mr James.

Dod o hyd i atebion i heriau

Mae Mr James, ffigwr blaenllaw ac uchel ei barch ym myd amaeth, yn cyfuno ffermio adfywiol ymarferol ar y fferm laeth deuluol 600-erw y mae’n ei rhedeg mewn partneriaeth â’i fab Daniel, ynghyd â nifer o rolau sydd â chyswllt â’r cyhoedd. Yn eiriolwr angerddol dros
newydd-ddyfodiaid a phobl ifanc, mae Mr James wedi bod ar flaen y gad ym maes materion gwledig yng Nghymru ers dros 40 mlynedd. Mae’n Gadeirydd Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ers 2018, mae’n gyn-lywydd NFU Cymru, yn parhau i fod â chysylltiad agos â CFfI Cymru ac wedi gwasanaethu gyda nifer o sefydliadau amaethyddol, nid yn unig yng Nghymru ond yn rhyngwladol. Mae wedi cynghori Llywodraethau Cymru a’r DU, cyn gyrff y Comisiwn Ewropeaidd ac mae’n parhau i fod yn ffigwr dylanwadol sy’n codi llais mewn llawer o sefydliadau rhanddeiliaid allweddol amaethyddiaeth, gan gynnwys drwy ei aelodaeth hir sefydlog ar Fwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio.

“Rydym i gyd yn cydnabod bod ein diwydiant dan bwysau. Mae argyfyngau hinsawdd a natur, pwysau’r farchnad, gofynion newidiol defnyddwyr a’r gofyniad i reoli tir yn gynaliadwy ac mewn modd sy’n gwarchod yr amgylchedd, yn cyflwyno heriau dyddiol i ni i gyd.

“Os rydym ni’n cael y wybodaeth ddiweddaraf, rydym ni’n parhau i fod yn barod, rydym ni’n parhau i fod yn hyblyg ac yn wydn,” meddai Mr James a bwysleisiodd mai cyfrifoldeb pawb sy’n gweithio yn y sector diwydiannau’r tir yw manteisio’n llawn ar y cyfoeth o gymorth, arweiniad, digwyddiadau a hyfforddiant sydd ar gael.

“Mae lefel y cymorth sydd ar gael yng Nghymru yn destun eiddigedd i lawer o genhedloedd amaeth eraill ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud defnydd llawn o hyn.”

Byddwch yn wybodus, yn barod ac yn hyblyg

“Mae’r newid i Gynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) arfaethedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi newid ond yn dod â chyfleoedd newydd hefyd a bydd yn trawsnewid y ffordd rydym yn rheoli ein tir, ein da byw a’n busnesau er gwell ar draws pob sector, gan gyfuno rheoli tir yn gynaliadwy â phroffidioldeb.

“Fel ceidwaid amgylcheddol, ein cyfrifoldeb ni yw proffesiynoli a moderneiddio’r diwydiant, i ddiogelu’r hyn sydd gennym ar gyfer y genhedlaeth nesaf – rhaid i ddatblygu sgiliau fod yn elfen allweddol o hyn,” meddai Mr James.

Gall ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gael mynediad at amrywiaeth o opsiynau hyfforddiant wedi’u hariannu’n llawn neu â chymhorthdal gan gynnwys cyrsiau achrededig wyneb yn wyneb, modiwlau e-ddysgu ac opsiynau trosglwyddo gwybodaeth gan arbenigwyr allweddol yn y diwydiant gan gynnwys gweithdai hyfforddiant ar Iechyd a Lles Anifeiliaid, gyda phob un yn gymwys ar gyfer DPP.

I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau, hyfforddiant a darpariaeth trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/sgiliau-hyfforddiant neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here