14.2 C
Llanelli
Friday, September 25, 2026
Home Local News Elusen GIG yn cynnig cyfleoedd i wneud eich ewyllys a gadael diolch

Elusen GIG yn cynnig cyfleoedd i wneud eich ewyllys a gadael diolch

0
499
Make Your Will Month header scaled
Make Your Will Month header scaled

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ymuno â chyfreithwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn ystod Mis Gwneud Eich Ewyllys (1-31 Mai 2025) i gynnig cyfle i gefnogwyr ysgrifennu neu ddiweddaru ewyllys am bris llawer is. Mae’r cyfreithwyr yn ildio eu ffi arferol yn gyfnewid am rodd i’r elusen.

Mae’r mis ysgrifennu ewyllys yn gyfle perffaith i bobl nad oes ganddyn nhw ewyllys i ysgrifennu un, ac i’r rhai sydd ag ewyllys gyfredol i’w diweddaru. Mae’r elusen yn gofyn am isafswm rhodd o £110 ar gyfer ewyllys sengl a £195 am fwy nag un. Gall y rhai sy’n cymryd rhan sicrhau bod y bobl y maent yn eu caru yn cael eu cofio yn eu hewyllys, ac, os dymunant, eu helusen GIG leol.

Ymysg y Cyfreithwyr sy’n cymryd rhan mae Avery Naylor Family Lawyers, DPA Law, Jennings Solicitors, Powell Davies Solicitors, Price and Kelway Solicitors, a Redkite Solicitors.

Dywedodd Claire Smith, Partner yn Jennings Solicitors: “Mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn gyfle gwych i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Trwy wneud ewyllys gallwch sicrhau y darperir ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau, yn ogystal â’r achosion sy’n bwysig i chi.

“Os oes gennych chi ewyllys yn barod, mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn gyfle perffaith i’w ddiweddaru a gwneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu unrhyw newid yn eich amgylchiadau drwy enedigaeth, profedigaeth, newid mewn statws priodasol a symud tŷ.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod dyfodol eich teulu yn ddiogel ac y bydd eich dymuniadau’n cael eu gwireddu – a hefyd i gefnogi eich GIG lleol.

“Bydd rhodd a wneir i’r elusen yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer. A bydd y rhai sy’n dewis gadael rhodd i Elusennau Iechyd Hywel Dda, waeth pa mor fawr neu fach, yn ddiogel gan wybod y bydd eu cymuned yn teimlo manteision eu caredigrwydd am flynyddoedd i ddod.

“Hoffem ddiolch i’r holl gyfreithwyr a gymerodd ran am eu cefnogaeth wych ac am roi o’u hamser gwerthfawr i ni.”

Nifer cyfyngedig o leoedd ysgrifennu ewyllys sydd ar gael, ac fe’u dyfernir ar sail y cyntaf i’r felin. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/mis-gwneud-eich-ewyllys/

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn cefnogi eich GIG lleol i wneud gwahaniaeth i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr a staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.  Darllenwch fwy 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.