Y rhedwr profiadol Sanna Duthie yn ymgymryd â her codi arian i geisio torri’r record am gwblhau Llwybr Arfordir Penfro

0
505
Capsiwn: Y rhedwr profiadol, Sanna Duthie, yn herio Llwybr Arfordir Penfro unwaith eto, ac mae'n benderfynol o guro ei record ei hun drwy gwblhau 186 o filltiroedd mewn llai na 50 awr.

Mae’r rhedwr profiadol Sanna Duthie yn paratoi i herio Llwybr Arfordir Penfro yn ei gyfanrwydd ac mae’n gobeithio torri’r record drwy gwblhau’r 186 o filltiroedd mewn llai na 50 awr, gan godi arian hanfodol ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro.

Gan ddechrau ar Draeth Poppit am 8.30am ddydd Iau 24 Ebrill, bydd Sanna yn ceisio curo ei record ei hun o 51 awr a 30 munud, a osodwyd ganddi yn 2021. Bydd yr her yn gwthio ei dycnwch corfforol a meddyliol i’r eithaf wrth iddi droedio arfordir garw a thrawiadol yr unig Barc Cenedlaethol arfordirol yn y DU.

Capsiwn: Y rhedwr profiadol, Sanna Duthie, yn herio Llwybr Arfordir Penfro unwaith eto, ac mae’n benderfynol o guro ei record ei hun drwy gwblhau 186 o filltiroedd mewn llai na 50 awr.

Mae cymhelliant Sanna dros ymgymryd â’r her hon yn mynd y tu hwnt i dorri recordiau. Mae hi’n cael ei hysgogi gan ei chysylltiad dwfn â Llwybr yr Arfordir a’i hawydd i helpu i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yr arian a godir yn cefnogi gwaith cynnal a chadw hanfodol, gan amrywio o ailadeiladu pontydd a ddifrodwyd gan stormydd i warchod henebion hynafol a mynd i’r afael ag erydu arfordirol.

Wrth siarad am ei her, dywedodd Sanna: “Mae Llwybr yr Arfordir wedi rhoi cymaint o bleser i mi dros y blynyddoedd – dyma fy maes hyfforddi, fy nihangfa, a fy ysbrydoliaeth. Nawr, mae’n amser i mi roi rhywbeth yn ôl. Rwy’n gobeithio codi £2,000 i helpu i ddiogelu a chadw’r llwybr anhygoel hwn, gan sicrhau bod pobl eraill yn gallu parhau i brofi ei harddwch a’i heriau am flynyddoedd i ddod.”

Cefnogir ymgais Sanna i dorri ei record gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, sy’n ariannu prosiectau cadwraeth hanfodol yn y Parc Cenedlaethol.

Ychwanegodd Katie Macro, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth: “Mae agwedd benderfynol a brwdfrydedd Sanna dros Lwybr yr Arfordir wir yn ysbrydoliaeth. Mae ei her yn tynnu sylw at yr angen brys am gyllid i ddiogelu’r llwybr eiconig hwn rhag bygythiadau cynyddol y newid yn yr hinsawdd, erydu, a llai a llai o gyllid cyhoeddus. Bydd pob rhodd, waeth pa mor fach, yn ein helpu i barhau â’r gwaith hanfodol hwn.”

I’r rhai sydd wedi’u hysbrydoli gan orchest Sanna ond sydd ddim yn barod i redeg 186 milltir, mae Her Arfordir Gwyllt yr Ymddiriedolaeth yn cynnig ffordd arall o fwynhau Llwybr yr Arfordir a chefnogi ei ddyfodol ar yr un pryd. Mae’r antur codi arian yma yn gwahodd cerddwyr i gwblhau’r llwybr ar eu cyflymder eu hunain – boed hynny dros wythnosau, misoedd, neu hyd yn oed flwyddyn.

Capsiwn: Y rhedwr profiadol, Sanna Duthie, yn herio Llwybr Arfordir Penfro unwaith eto, ac mae’n benderfynol o guro ei record ei hun drwy gwblhau 186 o filltiroedd mewn llai na 50 awr..

Mae’r rhedwr profiadol Sanna Duthie yn paratoi i herio Llwybr Arfordir Penfro yn ei gyfanrwydd ac mae’n gobeithio torri’r record drwy gwblhau’r 186 o filltiroedd mewn llai na 50 awr, gan godi arian hanfodol ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro.

Gan ddechrau ar Draeth Poppit am 8.30am ddydd Iau 24 Ebrill, bydd Sanna yn ceisio curo ei record ei hun o 51 awr a 30 munud, a osodwyd ganddi yn 2021. Bydd yr her yn gwthio ei dycnwch corfforol a meddyliol i’r eithaf wrth iddi droedio arfordir garw a thrawiadol yr unig Barc Cenedlaethol arfordirol yn y DU.

Mae cymhelliant Sanna dros ymgymryd â’r her hon yn mynd y tu hwnt i dorri recordiau. Mae hi’n cael ei hysgogi gan ei chysylltiad dwfn â Llwybr yr Arfordir a’i hawydd i helpu i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yr arian a godir yn cefnogi gwaith cynnal a chadw hanfodol, gan amrywio o ailadeiladu pontydd a ddifrodwyd gan stormydd i warchod henebion hynafol a mynd i’r afael ag erydu arfordirol.

Wrth siarad am ei her, dywedodd Sanna: “Mae Llwybr yr Arfordir wedi rhoi cymaint o bleser i mi dros y blynyddoedd – dyma fy maes hyfforddi, fy nihangfa, a fy ysbrydoliaeth. Nawr, mae’n amser i mi roi rhywbeth yn ôl. Rwy’n gobeithio codi £2,000 i helpu i ddiogelu a chadw’r llwybr anhygoel hwn, gan sicrhau bod pobl eraill yn gallu parhau i brofi ei harddwch a’i heriau am flynyddoedd i ddod.”

Cefnogir ymgais Sanna i dorri ei record gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, sy’n ariannu prosiectau cadwraeth hanfodol yn y Parc Cenedlaethol.

Ychwanegodd Katie Macro, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth: “Mae agwedd benderfynol a brwdfrydedd Sanna dros Lwybr yr Arfordir wir yn ysbrydoliaeth. Mae ei her yn tynnu sylw at yr angen brys am gyllid i ddiogelu’r llwybr eiconig hwn rhag bygythiadau cynyddol y newid yn yr hinsawdd, erydu, a llai a llai o gyllid cyhoeddus. Bydd pob rhodd, waeth pa mor fach, yn ein helpu i barhau â’r gwaith hanfodol hwn.”

I’r rhai sydd wedi’u hysbrydoli gan orchest Sanna ond sydd ddim yn barod i redeg 186 milltir, mae Her Arfordir Gwyllt yr Ymddiriedolaeth yn cynnig ffordd arall o fwynhau Llwybr yr Arfordir a chefnogi ei ddyfodol ar yr un pryd. Mae’r antur codi arian yma yn gwahodd cerddwyr i gwblhau’r llwybr ar eu cyflymder eu hunain – boed hynny dros wythnosau, misoedd, neu hyd yn oed flwyddyn.

Caption: Ultra-runner Sanna Duthie is taking on the Pembrokeshire Coast Path once again, determined to beat her own record and complete 186 miles in under 50 hours.

Drwy godi £200 yn unig, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cyfrannu’n uniongyrchol at ymdrechion cadwraeth, ac yn cael crys-T yr Her Arfordir Gwyllt i gydnabod yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.

I gefnogi ymgais Sanna i dorri’r record ac i’w helpu i gyrraedd ei tharged codi arian o £2,000, ewch i’w thudalen JustGiving yn https://www.justgiving.com/page/sanna-duthie-1729103753472.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here