Bouygues UK yn cyflawni gwerth cymdeithasol rhagoral ym mhrosiect Pentre Awel yn Llanelli

0
553
Bouygues Social Value scaled
Bouygues Social Value scaled
  • Mae tîm y prosiect wedi darparu dros £35 miliwn mewn gwerth cymdeithasol trwy gyflogaeth, addysg, y gadwyn gyflenwi ac ymgysylltu â’r gymuned
  • Mae 76 o swyddi a 62 o brentisiaethau wedi’u creu yn ystod y prosiect
  • Mae 2,000 o fyfyrwyr ysgolion cynradd ac uwchradd wedi rhyngweithio â thîm y prosiect yn ystod y gwaith adeiladu

Mae Bouygues UK, prif gontractwr Canolfan Pentre Awel yn Llanelli, wedi gorgyflawni ei ymrwymiadau a’i dargedau gwerth cymdeithasol yn ystod y gwaith adeiladu – gan gynnwys mwy na 400 wythnos ychwanegol o waith i hyfforddeion neu newydd-ddyfodiaid yn y diwydiant. 

Yn ystod y ddwy flynedd bron ar y safle, mae tîm Canolfan Pentre Awel wedi gwneud gwella bywydau’r bobl yn Sir Gaerfyrddin yn flaenoriaeth, gan ddarparu cyfleoedd gyrfa, gwella addysg a sgiliau, ymgysylltu â’r gymuned leol a chefnogi busnesau lleol.

Mae tîm prosiect Bouygues UK wedi darparu dros £35 miliwn mewn gwerth cymdeithasol trwy gyflogaeth, addysg, y gadwyn gyflenwi ac ymgysylltu â’r gymuned (Porth Gwerth Cymdeithasol 2025). O ran datblygu gyrfa a sgiliau, ffurfiodd Bouygues UK bartneriaeth â’r gadwyn gyflenwi leol i greu 76 o swyddi ar gyfer newydd-ddyfodiaid a darparu 62 o gyfleoedd i ddilyn prentisiaethau mewn rolau mecanyddol, trydanol a phlymio (MEP). Trwy gydweithio â Whitehead Building Services, ymunodd 10 prentis mecanyddol a phlymio â Chynllun Prentisiaethau ar y Cyd Cyfle hefyd.

Mewn partneriaeth ag Acorn gan Synergie, sefydlwyd canolfan gyflogaeth ar y safle, yn helpu i baru ymgeiswyr â chyfleoedd gyrfa. Hwylusodd yr hwb 15 sesiwn, gan arwain at 36 o bobl yn cael cyflogaeth – 32 yng Nghanolfan Pentre Awel a phedwar mewn safleoedd eraill sy’n cael eu rhedeg gan bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi ledled Sir Gaerfyrddin.

Gwnaeth Bouygues UK hefyd ymgysylltu ag ysgolion a cholegau lleol. Dan arweiniad Nina Williams, cynghorydd gwerth cymdeithasol y prosiect, cyflwynodd y tîm fwy na 100 awr o weithgareddau addysgol, ac ymgysylltu’n uniongyrchol â mwy na 2,000 o fyfyrwyr ysgolion cynradd ac uwchradd. 

Un fenter arbennig oedd her ddylunio Pentre Awel, a ariannwyd gan Gronfa Sgiliau a Thalent y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol, ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau STEM Cymru 2024. Roedd y rhaglen hon yn cysylltu 50 o ddysgwyr â mentoriaid Bouygues UK, a neilltuodd dros 70 awr i fentora disgyblion ar broblem waith go iawn drwy brosiect 10 wythnos i ddylunio addasiad ar gyfer llawr gwag ym Mhentre Awel.

Yn ogystal, gwnaeth myfyrwyr celf o Goleg Sir Gâr gydweithio â Bouygues UK i greu saith dyluniad ar gyfer hysbysfyrddau, gan ddathlu effaith gadarnhaol y prosiect.

Bu mentrau cymunedol hefyd yn ffynnu drwy gydol y prosiect, gyda Bouygues UK, ochr yn ochr â’i gadwyn gyflenwi, yn trefnu gŵyl bêl-droed stryd a gododd £5,000 ar gyfer digartrefedd. Ym Manc Bwyd Llanelli, darparodd menter Llesiant Bouygues UK wyth sesiwn yn canolbwyntio ar addysg ynghylch bwyta’n iach, gan fagu hyder wrth baratoi prydau maethlon.

O’r cychwyn cyntaf, gwnaeth Bouygues UK flaenoriaethu cynhwysiant cymunedol, gan gynnwys cymhorthfeydd rheolaidd i breswylwyr, cylchlythyrau, a chyfranogiad Llysgenhadon Cymunedol i sicrhau bod pobl leol yn cael eu hysbysu ac yn mynd ati i lywio llwyddiant y prosiect.

Mae Canolfan Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sy’n werth miliynau o bunnoedd. Bydd yn dod ag arloesi ym maes gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern ynghyd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn) ac ef yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru.

Dywedodd Nina Williams, y cynghorydd Gwerth Cymdeithasol ym Mhentre Awel, am lwyddiant y strategaeth gwerth cymdeithasol ym Mhentre Awel: “Mae Canolfan Pentre Awel wedi bod yn enghraifft ddisglair o sut y gall prosiectau adeiladu greu gwerth cymdeithasol parhaol i’r cymunedau maen nhw’n gweithio ynddynt. O gefnogi busnesau lleol i feithrin cyfleoedd addysgol a darparu llwybrau gyrfa, mae’r datblygiad hwn wedi trawsnewid bywydau’n gadarnhaol, ac mae wedi cryfhau’r gymuned leol – dyna yw ein gobaith. Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan wrth wireddu’r weledigaeth hon.”

Dywedodd rheolwr y prosiect, Peter Sharpe: “Mae gweithio ar Ganolfan Pentre Awel wedi bod yn brofiad hynod werth chweil. Mae gweld y gwahaniaeth diriaethol rydyn ni wedi’i wneud — boed hynny’n helpu pobl i sicrhau swyddi, ysbrydoli myfyrwyr trwy fentrau addysg, neu ymgysylltu â’r gymuned — wedi bod yn wirioneddol ostyngedig. Nid yw’r prosiect hwn yn ymwneud ag adeiladu yn unig; mae’n ymwneud ag adeiladu dyfodol mwy disglair i bobl Sir Gaerfyrddin, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi chwarae rhan fach wrth gyflawni hynny.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans, am y cyflawniad: « Mae Canolfan Pentre Awel yn hybu iechyd a llesiant yn Sir Gaerfyrddin, trwy annog ei thrigolion i fyw bywydau egnïol ac iach. Mae’r prosiect arloesol hwn wedi cymryd ei gamau cyntaf ym maes recriwtio; dewch i fod yn rhan o rywbeth gwirioneddol arloesol a chyffrous a gwnewch gais i weithio yng Nghanolfan Pentre Awel heddiw”.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here