Braich addysgu wedi’i hariannu ar gyfer tîm Offthalmoleg Glangwili

1
550
Teaching arm for Ophthalmology Department
Teaching arm for Ophthalmology Department

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu braich addysgu gwerth dros £5,900 ar gyfer yr Adran Offthalmoleg yn Ysbyty Glangwili.

Mae braich addysgu yn helpu meddygon a gweithwyr proffesiynol eraill i ddysgu sut i gynnal triniaethau laser.

Dywedodd Marta Barreiro Martins, Uwch Reolwr Nyrsio: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ariannu’r fraich hyfforddi hon ar gyfer ein hadran.

“Mae triniaeth Trabecwloplasti Laser Dewisol (SLT) wedi’i hystyried yn effeithlon wrth drin cleifion glawcoma ac mae bellach yn driniaeth ddewisol gyntaf ar gyfer cleifion sydd newydd gael diagnosis, yn unol â chanllawiau NICE (Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal).

“Bydd cael uned laser wedi’i sefydlu ar gyfer hyfforddiant yn sicrhau y gellir hyfforddi meddygon eraill a bod modd sefydlu mwy o sesiynau laser er mwyn gallu trin mwy o gleifion a lleihau eu hamser aros am driniaeth.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn. Mae eich cefnogaeth yn ein helpu i ddarparu eitemau a gwasanaethau ychwanegol y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei gynnig fel arfer yn nhai sir Hywel Dda.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff.

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch iwww.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

1 COMMENT

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here