13 C
Llanelli
Wednesday, May 20, 2026
Home Government HMRC 826,000 o deuluoedd yn rhoi hwb i gyllid gydag arbedion gofal plant 

826,000 o deuluoedd yn rhoi hwb i gyllid gydag arbedion gofal plant 

0
387
CYM 21 25
  • Rhannodd bron i 826,000 o deuluoedd yn y DU £632.2 miliwn mewn taliadau atodol gan y llywodraeth tuag at eu biliau gofal plant gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025
  • Anogir teuluoedd sy’n gweithio i gofrestru nawr i roi hwb ariannol i’w cynlluniau haf
  • Cefnogi ymdrech y llywodraeth i ddatblygu’r economi a chyflawni’r Cynllun Newid

Arbedodd bron i 826,000 o deuluoedd sy’n gweithio hyd at £2,000 fesul plentyn gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025. Mae’r arian yn helpu teuluoedd i dalu am eu gofal plant, fel rhan o Gynllun Newid y llywodraeth i roi mwy o arian ym mhocedi pobl.

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog y rhai sydd heb gofrestru eto ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, i wneud hynny nawr a rhoi hwb ariannol i’w cynlluniau haf. 

Mae’r ffigurau diweddaraf gan CThEF yn dangos ym mis Mawrth 2025, bod 21,420 o deuluoedd yng Nghymru wedi defnyddio’r cynllun i arbed ar eu biliau gofal plant blynyddol, cynnydd o 2,730 o deuluoedd o’i gymharu â’r mis Mawrth blaenorol. 

Gall teuluoedd sy’n gweithio ac sy’n cofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth roi hwb i’w cyllideb flynyddol hyd at £2,000 i bob plentyn hyd at 11 oed neu hyd at £4,000 hyd at 16 oed i blentyn anabl.

Gall rhieni ddefnyddio’r cynllun i helpu tuag at gost gofal plant cymeradwy, boed hynny’n feithrinfa i blant iau, neu i blant hŷn – clybiau gofal cofleidiol neu ar ôl ysgol yn ystod y tymor neu glybiau gwyliau ar gyfer gwyliau hir yr haf sydd i ddod.

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid: 

“Gall yr haf fod yn gyfnod drud os oes gennych blant. Beth bynnag rydych yn ei gynllunio, gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth roi hwb ariannol croesawgar i’ch cynlluniau. Ewch i GOV.UK i ddechrau arbed arian heddiw.”

Am bob £8 sy’n cael ei rhoi mewn cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mae’r llywodraeth yn ychwanegu £2 ati, sy’n golygu bod rhieni’n gallu cael hyd at £500 (neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl) bob 3 mis tuag at dalu am eu costau gofal plant.

Unwaith y bydd teuluoedd wedi agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, gallant dalu arian i mewn i gyfrif a’i ddefnyddio ar unwaith neu ei gadw yn y cyfrif i’w ddefnyddio pryd bynnag y bydd ei angen. Gall unrhyw arian sydd heb ei ddefnyddio gael ei dynnu o’r cyfrif ar unrhyw adeg.   

Gall teuluoedd fod yn gymwys ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os yw’r canlynol yn wir:   

   

  • mae ganddynt blentyn neu blant 11 oed neu iau. Maent yn stopio bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Os oes gan y plentyn anabledd, maent yn cael hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed   
  • mae’r rhiant a’i bartner (os oes un) yn ennill, neu’n disgwyl ennill, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd   
  • nid ydynt yn ennill dros £100,000 y flwyddyn yr un   
  • nid ydynt yn cael Credyd Cynhwysol na thalebau gofal plant    

   

Ewch i GOV.UK i wirio cymhwystra a chofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Gellir defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ochr yn ochr â’r oriau gofal plant sy’n rhad ac am ddim yn amodol ar gymhwystra. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleExploring the Rich Culture and History of Greece
Next articleHouse Plan Approval
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here