7.3 C
Llanelli
Saturday, January 31, 2026
Home Aberystwyth Cyfle i gymunedau gwledig Cymru ennill grant gwerth £20,000 i sbarduno newid

Cyfle i gymunedau gwledig Cymru ennill grant gwerth £20,000 i sbarduno newid

0
398
Market

Gwahoddir cymunedau gwledig ledled Cymru i wneud cais am grant newydd gwerth £20,000 i ystyried syniadau a allai helpu i greu dyfodol gwell i’w hardal.

Bydd y Grant Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned yn ariannu hyd at chwe phrosiect ymchwil ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth gan fentor academaidd a chyfleoedd i gysylltu â chymunedau ac ymchwilwyr eraill.

Darperir y grant gan Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol (LPIP) Cymru Wledig, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth.

Meddai’r Athro Mike Woods o Brifysgol Aberystwyth, Cyfarwyddwr Cymru Wledig LPIP Rural Wales:

“Diben y rhaglen hon yw rhoi’r adnoddau a’r gefnogaeth i gymunedau gwledig i ymchwilio i’r hyn sy’n bwysicaf iddyn nhw – boed gwella lles, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, neu gryfhau’r diwylliant lleol – ac i droi’r wybodaeth honno’n gamau gweithredu.”

“Mae hwn yn gyfle i gymunedau gymryd yr awenau wrth lunio eu dyfodol eu hunain, ac rydym yn falch o gefnogi prosiectau sy’n adlewyrchu creadigrwydd, gwytnwch ac uchelgais cymunedau yng nghefn gwlad Cymru.”

Mae’r grant yn agored i gymunedau yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg.

Rhaid i brosiectau gydweddu ag o leiaf un o bedair thema allweddol Cymru Wledig LPIP Rural Wales, sef: adeiladu economi adfywiol; cefnogi’r pontio i Sero Net; grymuso cymunedau ar gyfer adferiad diwylliannol; neu wella lles yn ei le.

Mae rhagor o wybodaeth am y Grant Ymchwil Gweithredu a arweinir gan y Gymuned, sydd ar agor am geisiadau tan 29 Awst 2025, ar gael ar wefan Gyda’n Gilydd Dros Newid.

Darperir y gronfa gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ac Innovate UK fel rhan o Cymru Wledig LPIP Rural Wales, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.