Mae dros 37,000 o dyllau ar 75 o filltiroedd o ffyrdd y De-orllewin wedi cael eu trwsio neu eu hatal yn y chwe mis diwethaf.
Ers mis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n glos gyda chynghorau lleol i gyflawni ei hymrwymiad o ran ‘Trwsio ein Ffyrdd’.
Mae’r fenter benthyca ar gyfer llywodraeth leol wedi galluogi cynghorau lleol i drwsio neu atal tua 107,000 o dyllau ar draws 216 milltir ar ffyrdd lleol yng Nghymru. Ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) mae tua 24,000 o dyllau wedi’u trwsio neu eu hatal ar fwy na 50 milltir o ffordd yn yr un cyfnod, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.
Ymhlith y priffyrdd yn y De-orllewin sydd wedi’u trwsio y mae’r A40 yng Nghaerfyrddin.
Mae’r gwaith yn mynd rhagddo gyda rhagor o gynlluniau ar yr SRN ar y gweill fel yr A487 yn Eglwyswrw a’r A40 Arnold’s Hill yn Sir Benfro.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon.
“Er nad yw’r rhaglen hon ond ar waith ers chwe mis rwy’n falch iawn o’r gwaith gwych sydd wedi’i wneud hyd yn hyn, ac mae llawer mwy i ddod.
“Rydym nawr yn gweld canlyniadau’r buddsoddiad ychwanegol o £25m yn ein prif ffyrdd, a’r gefnogaeth i’n hawdurdodau lleol i drwsio ffyrdd lleol.
“Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, gan ddatrys problemau nawr a gwneud ein ffyrdd yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |














It’s great to see such a proactive approach to road safety. Potholes have been a persistent issue in many areas,and fixing them can really reduce the risk of accidents,especially for cyclists and motorcyclists. Hopefully,this will set a positive example for other regions to follow.