9.1 C
Llanelli
Tuesday, April 14, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Beicwyr yn codi dros £5,000 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Tywysog Philip

Beicwyr yn codi dros £5,000 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Tywysog Philip

0
546
Sarah Mountfield cropped

Mae grŵp o ffrindiau wedi ymgymryd â her epig er cof am ffrind a chydweithiwr annwyl – maen nhw wedi beicio hyd Cymru, o’r gogledd i’r de.

Sarah Mountfield cropped

Fe wnaeth y beicwyr feicio o Fangor i Gasllwchwr, ger Llanelli, i godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, lle cafodd y ffrind a’r cydweithiwr Wayne Evans ei drin.

Cododd grŵp beicio WE N2S (Wayne Evans Gogledd i’r De) swm enfawr o £5,036 ar gyfer yr uned, gan ymweld â threfi ledled y wlad, gan gynnwys Aberystwyth a Phorth Tywyn.

Sarah Mountfield cyclists pic

Cafodd Wayne ddiagnosis o ganser y pancreas datblygedig ym mis Awst 2022, ac roedd hyn yn golygu na allai gwblhau Ironman Cymru y mis Medi hwnnw. Er gwaethaf cyfnod anhygoel o heriol, roedd yn benderfynol o barhau i ddilyn ei angerdd dros driathlon ac aeth ymlaen i gwblhau Triathlon Abertawe a Llanelli fel rhan o dîm lle’r oedd yn rhedeg neu’n cerdded y 5k, wrth godi arian.

Wedi’i ysbrydoli gan gryfder eu ffrind, cymerodd y trefnydd Sarah Mountfield a gweddill y beicwyr eu her feicio eu hunain am y tro cyntaf ym mis Awst 2023, lle fe wnaethant feicio o’r gogledd i’r de. Wrth wneud hynny, fe godon nhw dros £3,000 ar gyfer Uned Cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip a phenderfynon nhw ei wneud eto ym mis Awst 2024, lle fe godon nhw hyd yn oed mwy o arian.

Dywedodd Sarah fod y daith feicio yn 2025 – a gynhaliwyd dros ŵyl banc mis Awst – yn “hwyl, yn heriol ac yn werth chweil” ac roedden nhw’n falch o ragori ar eu swm targed o £5,000 eleni.

Esboniodd: “Yn dilyn teithiau llwyddiannus y ddwy flynedd ddiwethaf, fe benderfynon ni ymgymryd â’r her eto i godi arian ar gyfer yr Uned Cemotherapi, gan godi swm syfrdanol o £5,036 er cof am ein ffrind annwyl Wayne.”

“Roedd yn deyrnged addas i Wayne, dyn rhyfeddol sy’n parhau i ysbrydoli llawer,” ychwanegodd. “Mae’r llwybr yn anhygoel o heriol, ond fe wnaethon ni gefnogi ein gilydd a llwyddo i oroesi.”

Dywedodd Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch i dîm WE N2S am eu her feicio nodedig a’u rhodd wych o dros £5,000.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleGenocide Petition
Next articleCyclists raise over £5,000 for Prince Philip Chemotherapy Day Unit
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here