6.1 C
Llanelli
Friday, February 13, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Bydd setiau teledu newydd yn dod â chysur i gleifion cemotherapi

Bydd setiau teledu newydd yn dod â chysur i gleifion cemotherapi

0
442
Chemotherapy Day Unit staff with one of the new TVs

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu dau deledu newydd gwerth dros £1,000 ar gyfer y man aros i gleifion a’r ystafell driniaeth yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Marie Williams, Uwch Brif Nyrs Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT): “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu’r setiau teledu newydd ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi.

“Gall cael cemotherapi fod yn brofiad emosiynol, ac mae’r amser a dreulir yn aros am driniaeth yn aml yn gallu ychwanegu at bryder ac anghysur cleifion. 

“Mae clinigau yn cael eu cynnal o fewn yr Uned Ddydd Cemotherapi ac weithiau gallant or-redeg. Bydd darparu mynediad i’n cleifion at deledu yn gwneud eu profiad yn fwy cyfforddus ac yn tynnu eu sylw wrth iddynt aros am eu hapwyntiad. Gall presenoldeb teledu wneud i’r man aros deimlo’n fwy deniadol ac yn llai clinigol.

“Bydd darparu teledu i gleifion yn yr ystafell driniaeth hefyd yn gwneud eu profiad yn fwy cyfforddus ac yn tynnu eu sylw wrth iddynt gael cemotherapi.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.