Sanna Duthie yn torri record am redeg ar hyd yr arfordir – gwyliwch ar-lein

0
93
Sanna 3

Mae rhaglen ddogfen newydd sy’n dilyn y rhedwraig eithafol, Sanna Duthie, wrth iddi dorri record am redeg Llwybr Arfordir Penfro yn ei gyfanrwydd, nawr ar gael i’w gwylio ar-lein.

Cafodd y rhaglen ei ffilmio a’i chyfarwyddo gan Martin o Kelp and Fern, ac mae’n dilyn taith eithriadol Sanna ar hyd y llwybr cenedlaethol wrth iddi gwblhau’r 186 milltir mewn dim ond 48 awr, 23 munud a 49 eiliad – gan osod yr Amser Hysbys Cyflymaf.

O’r heriau corfforol sy’n dod yn sgil rhedeg yn ddi-baid, i eiliadau o fyfyrio tawel ar glogwyni a childraethau trawiadol Sir Benfro, mae’r rhaglen ddogfen yn dangos y dycnwch, yr haelioni a’r cymhelliad dwfn sydd y tu ôl i un o’r campau anoddaf erioed i gael ei chyflawni gan unigolyn ym Mhrydain.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yn Theatr Gwaun yn Abergwaun ym mis Tachwedd, mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro. Codwyd dros £500 ar y noson drwy werthiant tocynnau a raffl, gan ychwanegu at y £3,000 sydd eisoes wedi cael ei godi mewn perthynas â champ Sanna – gyda’r holl elw’n mynd tuag at gefnogi prosiectau cadwraeth, treftadaeth ac ymgysylltu ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Ers hynny, mae Sanna wedi cael ei henwi’n Llysgennad swyddogol ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, er mwyn cydnabod ei hangerdd dros y dirwedd a’i chefnogaeth barhaus i’r gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo’r Parc ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r rhaglen ddogfen lawn nawr ar gael i’w gwylio ar-lein drwy dudalen Codwyr Arian yr Ymddiriedolaeth https://pembrokeshirecoasttrust.wales/impact/our-fundraisers.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here