10.9 C
Llanelli
Sunday, April 19, 2026
Home Newyddion Lle ‘Nid pennod newydd yw maniffesto Llafur – dyma’r bennod olaf mewn llyfr y mae pobl Cymru eisoes wedi’i...

‘Nid pennod newydd yw maniffesto Llafur – dyma’r bennod olaf mewn llyfr y mae pobl Cymru eisoes wedi’i gau’ – Plaid Cymru 

0
133
Rhun ap Iorwerth 2024 cropped
Rhun ap Iorwerth 2024 cropped

Wrth ymateb i lansiad maniffesto Llafur, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: 

“Nid pennod newydd yw maniffesto Llafur. Dyma’r bennod olaf mewn llyfr y mae pobl Cymru eisoes wedi’i gau.

“Bydd pobl Cymru’n meddwl heddiw pam, ar ôl 27 mlynedd mewn llywodraeth, nad yw nifer fawr o’r addewidion hyn eisoes wedi’u cyflawni.

“Mae eu prif addewid yn canolbwyntio ar yr hyn na fyddant yn ei wneud yn hytrach na’r hyn y byddant yn ei wneud. Dydy addo peidio â chynyddu treth incwm ddim yn feiddgar iawn, o ystyried bod Plaid Cymru eisoes wedi dweud na fyddwn yn codi cyfraddau treth incwm Cymru. Y gwahaniaeth yw ein bod yn cyfuno’r ymrwymiad hwnnw â rhaglen gredadwy ac uchelgeisiol ar gyfer llywodraeth.

“Dydy ffigurau Llafur ar ysbytai newydd ddim yn dal dŵr. Mae’r diffyg eglurder ar gynlluniau i ehangu gofal plant a darparu gwasanaethau iechyd meddwl ‘ar yr un diwrnod’ yn annerbyniol i blaid sydd wedi bod mewn llywodraeth ers cyhyd.

“Does dim hygrededd yn addewid Llafur i ddod â digartrefedd i ben erbyn 2034 o ystyried eu bod wedi methu â chyflawni eu haddewid blaenorol i’w ddiddymu erbyn 2026.

 “Yr etholiad hwn yw’r pwysicaf yn hanes datganoli, gyda dewis clir rhwng gobaith Plaid Cymru ac ymdrechion Reform UK i’n gwahanu. Plaid ymylol yn unig yw Llafur.

“Mae gan Plaid Cymru gynllun clir i leihau amseroedd aros, codi safonau yn ein hysgolion, cyflwyno gofal plant i bawb a chryfhau cefnogaeth i fusnesau Cymru.

“Mae amser Llafur ar ben. Dim ond Plaid Cymru sy’n cynnig yr arweinyddiaeth a’r uchelgais newydd sydd eu hangen ar Gymru i gyflawni ei photensial.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here