12.1 C
Llanelli
Wednesday, April 8, 2026
Home Newyddion Lle Byddai twll du £1bn maniffesto Reform yn dinistro gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Byddai twll du £1bn maniffesto Reform yn dinistro gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

3
72
486513757 1070395794899252 2334285141924323945 n

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu addewidion maniffesto Reform UK am fod heb eu costio, fyddai’n arwain at dwll du gwerth mwy na £1 biliwn yng nghyllid cyhoeddus Cymru.

Cyn etholiad y Senedd ar Fai 7, mae maniffesto Cymru gan Reform wedi dod dan sgrwtini am gynnwys cyfres o fesurau torri trethi a gwariant ar seilwaith cyhoeddus heb esboniad o ble fyddai’r arian ar gyfer y gwariant yn dod.

Ar ddiwrnod lansio maniffesto’r blaid ar 5 Mawrth 2026, dywedodd Arweinydd Reform UK Ltd, Nigel Farage, y byddai asesiad annibynnol o’r costau, ond fis yn ddiweddarach, nid yw’r wybodaeth hwnnw wedi’i rannu.

Ers hynny, mae ymchwil gan Blaid Cymru yn awgrymu y byddai cost yr holl ymrwymiadau maniffesto a gyhoeddwyd gan Reform yn fwy na £1 biliwn rhwng toriadau treth ac ymrwymiadau gwariant.

Byddai’r polisi i dorri 1c i’r bunt ar gyfer pob band treth incwm yng Nghymru yn costio £371m yn 2026-27, a £390m yn 2027/28 ar ben ei hun. Yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dilyn cyhoeddi’r Gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27, byddai cyfyngu codiadau treth gyngor ledled Cymru i 5% wedi golygu £437m ychwanegol i’r Grant Cymorth Refeniw (RSG) ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae Reform hefyd wedi addo adeiladu ffordd liniaru’r M4. Yn 2019, amcangyfrifwyd y byddai’n costio £1.4bn gyda TAW yn ychwanegol. Wedi’i addasu yn unol â chwyddiant, byddai hyn yn cyfateb i gost o tua £2.46bn – tua 70% o gyllideb gyfalaf gyfan Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27. Dros gyfnod adeiladu disgwyliedig o 5 mlynedd, byddai’r prosiect yn costio tua £492m y flwyddyn.

Mae arolygon barn wedi awgrymu’n gyson y bydd hi’n ras dau geffyl i ddod y blaid fwyaf yn etholiad y Senedd fis Mai, gan ddangos yn glir mai dim ond Plaid Cymru all atal Reform yng Nghymru.

Dywedodd Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi:

“Byddai rhethreg Reform yn rhwygo ein cymunedau. Mae’n glir y byddai eu hagenda o lymder-cudd, a’r cynlluniau i dorri trethi eu ffrinidiau sy’n filiwnyddion, yn dinistrio ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

“Nid yw mathemateg eu maniffesto yn gwneud unrhyw synnwyr – byddai’n creu twll du gwerth £1 biliwn yng nghyllid cyhoeddus Cymru. Economeg ffantasi heb unrhyw gostau cysylltiedig. Nid yw’n gynllun, mae’n gambl.

“Mae’n amlwg nad yw’r cyn-Geidwadwyr yn Reform o ddifrif am lywodraethu Cymru – dim ond creu anhrefn a rhaniadau er mwyn gwasanaethu eu pwrpas eu hunain sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae ein cymunedau’n haeddu cymaint yn well na hynny. Mae angen llywodraeth ar Gymru sydd o ddifrif am gynnig atebion wedi 27 mlynedd o gamreoli gan Lafur.

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd â chynllun uchelgeisiol a chyflawnadwy i ostwng amseroedd aros, codi safonau yn ein hysgolion, cyflwyno ein cynnig gofal plant am ddim i bawb, a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar fusnesau Cymru.

“Wrth i etholiad y Senedd agosáu, mae’r polau piniwn yn glir: dim ond Plaid Cymru all atal Reform rhag cael gafael ar bwrs cyhoeddus Cymru a’r gwasanaethau lleol y mae pob un ohonan ni’n dibynnu arnyn nhw.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

3 COMMENTS

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.