Mae Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth wedi codi £4,688.51 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.
Nigel Davies ac Anwen Davies, tad a merch o Bontyberem, drefnodd y daith tractorau Nadolig a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2025 ym Mhontyberem. Dyma eu pedwerydd digwyddiad codi arian taith tractorau ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda ac elusennau lleol eraill.
Dywedodd Anwen: “Roedd y daith tractorau yn wych. Bob blwyddyn mae’n gwella. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd, a gymerodd ran, a helpodd i drefnu ac a roddodd o’u hamser.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Diolch i Anwen, Nigel a phawb a fu’n rhan o gefnogi Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















