meta name="publication-media-verification"content="32e115286e884a4ebe1a68f6534cb97d"
19.9 C
Llanelli
Thursday, April 23, 2026
Home Local News Ceredigion News Tîm Hepatoleg yn ymgymryd â Thri Chopa Cymru i gefnogi gofal cleifion

Tîm Hepatoleg yn ymgymryd â Thri Chopa Cymru i gefnogi gofal cleifion

0
67
Ceredigion Hepatology Team Welsh 3 Peaks 2

Heriodd staff o’r Uned Hepatoleg yn Ysbyty Bronglais Dri Chopa Cymru a chodi’r swm gwych o £2505.19 at eu gwasanaeth.

Llwyddodd y tîm i herio Cadair Idris, yr Wyddfa a Phen y Fan ar 27 Medi 2025, gan gwblhau’r her mewn dim ond 23 awr.

Ceredigion Hepatology Team Welsh 3 Peaks

Dywedodd Chloe Lewis, Nyrs Cyswllt Alcohol: “Rydym yn dîm o bump sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf ar gyfer unigolion â chlefyd yr afu. Rydym yn gweithio ar y cyd ac yn cyfuno gwahanol wybodaeth arbenigol, arbenigedd clinigol a chymorth tosturiol i reoli ystod eang o gyflyrau hepatoleg acíwt a chronig. Ein nod yw gwella canlyniadau, hybu iechyd yr afu, a darparu gofal diogel, effeithiol.

“Rydym yn rhoi’r arian tuag at brynu modelau addysgol i’n cleifion, er mwyn darparu addysg iechyd gweledol mewn clinigau. Bydd hyn yn galluogi dealltwriaeth ehangach o’u diagnosis o glefyd yr afu a’i gamau. Mae’r arian hefyd wedi mynd tuag at ein clinigau allgymorth acíwt a’n Diwrnodau Ymwybyddiaeth Iechyd yr Afu, yn ogystal â’r hyfforddiant rheolaidd a ddarparwn mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.

Ceredigion Hepatology Team Welsh 3 Peaks 3

“Aeth y digwyddiad yn arbennig o dda, roedden ni i gyd mor falch o fod wedi codi cymaint o arian i’n tîm. Roedd yn bendant yn her anodd. Roedd yn feichus yn gorfforol ac yn feddyliol ond yn hynod werth chweil. Profodd ein dygnwch, gwaith tîm a phenderfyniad.

“Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd ac am gefnogaeth pawb. Mae wir yn golygu cymaint.”

Dywedodd Paige Denyer, Swyddog Cefnogi Codi Arian: “Am ymdrech wych gan y tîm Hepatoleg ymroddedig, rydych chi i gyd wedi dangos ymrwymiad a phenderfyniad gwirioneddol wrth gwblhau’r her hon.

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a gawn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, maent yn cefnogi eitemau a gweithgareddau ychwanegol y tu allan i wariant craidd y GIG. Mae’r pethau ychwanegol bach hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rydym mor ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here