16 C
Llanelli
Saturday, July 4, 2026
Home Bronglais Mam i ddau o blant yn llwyddo i neidio o awyren er...

Mam i ddau o blant yn llwyddo i neidio o awyren er budd ward iechyd meddwl Bronglais

0
30
Laura Hiscox

Neidiodd Laura Hiscox allan o awyren ar 15,000 troedfedd ac mae eisoes wedi codi dros £450 ar gyfer Ward Enlli, ward iechyd meddwl yn Ysbyty Bronglais.

Aeth Laura, sy’n gweithio i Dîm Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i Faes Awyr Abertawe ar 18 Ebrill a chymerodd ran mewn neidio o awyren tandem.

Dywedodd Laura: “Rwy’n byw yng Ngheredigion ac mae gen i ddwy ferch sy’n 10 a 12 oed. Maen nhw’n meddwl mai ‘dad yw’r un anturus’ ac roeddwn i eisiau dangos iddyn nhw fod mam yn anturus hefyd, wrth godi arian ar gyfer achos pwysig iawn.

“Archebais naid 10,000 troedfedd yn wreiddiol ond cynyddais hynny i 15,000 troedfedd ychydig ddyddiau ymlaen llaw. Ar y ffordd i fyny, roedd llawer o gyffro a wynebau’n gwenu.

“Rwy’n adnabod cymaint o deuluoedd a ffrindiau o’m cwmpas sydd wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer ac rwyf wedi gweld yr effaith y mae hyn wedi’i chael arnyn nhw. Ymwelais â ward Enlli trwy waith, a gallwn weld effaith y gweithgareddau a oedd yn digwydd yno. Roeddwn i eisiau codi rhywfaint o arian i fynd tuag at brynu eitemau a fyddai’n helpu i wella arhosiad pobl ar y ward.

“Hoffwn ddiolch i dîm Elusennau Iechyd Hywel Dda am ein galluogi i gymryd rhan mewn heriau mor epig ar gyfer achosion da. Helpodd cefnogaeth y tîm yn fawr iawn gyda fy nghodi arian. Rhannwyd y newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol a chefnogodd pobl rwy’n eu hadnabod fy ymdrechion codi arian a gwnaeth hynny wahaniaeth mawr.

“Hoffwn ddiolch i unrhyw un a roddodd neu a rannodd fy linc, fy mhlant am fy ysbrydoli i wthio fy hun y tu hwnt i’m parth cysur a fy nau gydweithiwr o’r tîm cyfathrebu a ddaeth i’m cefnogi ar y diwrnod gyda llawer o chwerthin a phositifrwydd.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Rydym am ddiolch yn fawr iawn i Laura am fentro neidio o awyren i gefnogi Ward Enlli.

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, maent yn cefnogi eitemau a gweithgareddau ychwanegol y tu allan i wariant craidd y GIG. Mae’r pethau bach ychwanegol hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rydym mor ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Os hoffech gyfrannu at ymgyrch codi arian Laura, ewch i:https://hyweldda.enthuse.com/pf/skydiving-for-enlli-ward

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleNet Zero Call
Next articleMum-of-two conquers skydive for Bronglais mental health ward
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.