24.3 C
Llanelli
Sunday, July 12, 2026
Home Rail Transport for Wales Ffans cerddoriaeth yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer...

Ffans cerddoriaeth yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer cyngherddau’r haf

0
177
music festives
Wrth i filoedd o bobl fynd i’r brif ddinas yr haf hwn am gyfres wych o gerddoriaeth fyw, dylai ffans cerddoriaeth sy’n mynd i Gaerdydd dros yr haf gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw.
Gyda Take That a Metallica yn cymryd y llwyfan yn Stadiwm Principality, Blackweir Live, sy’n cynnwys Lewis Capaldi a Pitbull, yn dychwelyd, yn ogystal â haf llawn digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, mae disgwyl i wasanaethau trên fod llawer yn fwy prysur na’r arfer drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf.Er mwyn cludo ffans cerddoriaeth adref yn ddiogel, mae TrC wedi gwella capasiti ar lwybrau allweddol gan roi gwasanaethau hwyrach ar waith ar gyfer y rheini sy’n mynychu’r digwyddiadau.Bydd systemau ciwio yn eu lle yng ngorsafoedd trenau Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol y Frenhines.Bydd y trefniadau canlynol ar waith yn y gorsafoedd, ac anogir ffans i ymgyfarwyddo’u hunain â’r systemau ciwio cyn iddynt deithio:Cyngherddau Stadiwm Principality (Take That a Metallica): Bydd cwsmeriaid sy’n mynd i’r Cymoedd neu i Fro Morgannwg yn cael eu cyfeirio at orsaf drenau Caerdydd Heol y Frenhines, a bydd system giwio ar gyfer y brif lein yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog. Bydd ciwio’n dechrau o 21:45 yn y ddwy orsaf.
• Cyngherddau Blackweir Live a Chastell Caerdydd: Er bydd gwasanaethau o hyd yn brysur, gall gwsmeriaid y Cymoedd a Bro Morgannwg ddefnyddio naill orsaf neu’r llall i fynd adref.Ar gyfer yr holl gyngherddau Blackweir Live, bydd gorsaf drenau Cathays a phont yr orsaf yn cau am 22:00. Caiff cwsmeriaid eu cyfeirio naill ai at orsaf drenau Caerdydd Canolog neu Heol y Frenhines.Dywedodd Georgina Porter, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: “Gyda chyfres wych o ddigwyddiadau’r haf ar draws ein rhwydwaith, rydyn ni am i bawb fwynhau’r cyngherddau. Mae disgwyl i’r gwasanaethau trên fod yn brysur, ac rydyn ni’n gwneud popeth ag y gallwn i gefnogi hynny drwy gynnal mwy o wasanaethau lle’n bosib ac ychwanegu trenau hwyrach er mwyn cludo pobl adref.”Bydd ein timau ar gael yn ein gorsafoedd i’ch cefnogi a’ch cadw chi i symud yn ddiogel. Yr unig beth yr ydym yn ei ofyn yw ichi gynllunio ymlaen llaw, gwirio manylion eich trên olaf adref, a thrin ein timau gyda’r caredigrwydd a’r parch maent yn eu haeddu, diolch.”Atgoffir cwsmeriaid yn gryf i adael digon o amser ar gyfer eu siwrneiau a phrynu eu tocynnau trên ymlaen llaw drwy ap neu wefan TrC.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.