17.5 C
Llanelli
Tuesday, October 13, 2026
Home Newyddion Lle Polisi prydau ysgol am ddim Plaid i fynd i’r afael â methiannau...

Polisi prydau ysgol am ddim Plaid i fynd i’r afael â methiannau Llafur ar dlodi plant

0
597
SianG
SianG

Heddiw mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru ac ymgeisydd Etholiad Senedd ar gyfer Arfon, Siân Gwenllian, wedi nodi sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio tuag at ddarparu prydau ysgol am ddim i blant yng Nghymru, gan helpu i gau’r bwlch cyrhaeddiad a mynd i’r afael â thlodi plant.

Mae ffigurau gan y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant (Child Poverty Action Group) yn dangos nad yw tua 70,000 o blant yng Nghymru sy’n byw o dan linell dlodi’r DU yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd.

Dywedodd Siân Gwenllian y byddai’r polisi’n canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr a busnesau Cymru trwy hybu caffael lleol, ac y dylid ei gyflwyno trwy ymestyn cymhwysedd prydau ysgol am ddim i blant cynradd o aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol. Byddai pob plentyn yn yr ysgol gynradd yn derbyn prydau ysgol am ddim cyn diwedd tymor cyntaf Plaid Cymru mewn llywodraeth.

Dywedodd Siân Gwenllian:

“Mae’r bwlch cyrhaeddiad yn her go iawn yng Nghymru. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cychwyn ar y gwaith pwysig o gau’r bwlch hwn gan ehangu’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, gan ddechrau gydag ymestyn cymhwysedd i bob plentyn cynradd o aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.

“Erbyn diwedd tymor cyntaf llywodraeth Plaid, byddem yn ymestyn y cymhwysedd hyd yn oed yn fwy trwy gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, gan fynd ymhellach nag a gafodd unrhyw lywodraeth Lafur erioed.

“Gyda bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi a’r Llywodraeth Lafur ddiwethaf wedi dileu eu targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r methiant hwn.

“Gall Cymru ddysgu gan genhedloedd bach eraill fel y Ffindir a Sweden sy’n rhoi pwyslais ar Brydau Ysgol Rydd fel buddsoddiad mewn dysgu effeithiol a datblygiad cynnar plant.

“Byddai cynllun prydau ysgol am ddim Plaid Cymru hefyd o fudd i’r gymdeithas ehangach, gan roi ffocws ar gefnogi ffermwyr a busnesau Cymru trwy hybu caffael lleol, a hyrwyddo buddion cynnyrch maethlon, cartref o ran iechyd, yr economi a’r amgylchedd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.