11.1 C
Llanelli
Wednesday, June 10, 2026
Home Charity Elusennau Iechyd Hywel Dda ar sut mae rhoddion wedi helpu cleifion yn...

Elusennau Iechyd Hywel Dda ar sut mae rhoddion wedi helpu cleifion yn ystod y pandemig

0
605
FLO with patient and distraction items 1
FLO with patient and distraction items 1

Lluniau 1 a 2 – Swyddog Cyswllt Teulu gydag eitemau cleifion a thynnu sylw Swyddog cyswllt teulu Ashley Williams yn darparu pos a llyfrau gweithgareddau i glaf Llun 5: Aelod o staff gyda rhai o’r deunyddiau ymolchi a gyflenwir gan Elusennau Iechyd Hywel Dda

Diolch i roddion gan gymunedau lleol ac arian gan NHS Charities Together dros y 12 mis diwethaf, mae Elusennau Iechyd Hywel Ddaelusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Ddawedi gallu prynu miloedd o eitemau i wneud bywyd yn well i gleifion ysbyty yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ystod pandemig COVID-19.

O ddeunyddiu ymolchi, dillad a pyjamas, ar adeg pan na allai cleifion dderbyn ymwelwyr, i eitemau trydanol, gemau, gweithgareddau, celf a chrefft, defnyddiwyd y cyllid hanfodol hwn i wneud arosiadau ysbyty yn fwy cyfforddus ar adeg anodd.

Yn ogystal, rhoddwyd dros £20,000 o eitemau i gleifion trwy apêl cleifion COVID-19 Hywel Dda, rhestr ddymuniadau Amazon, a sefydlwyd gan yr elusen ar ddechrau’r pandemig i ddarparu hanfodion i gleifion pan nad oedd ymweld yn bosib.

Mewn partneriaeth â Elusennau Iechyd Hywel Dda, mae Tîm Profiad Claf y bwrdd iechyd wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod eitemau’n cyrraedd y cleifion sydd eu hangen fwyaf.

Dywedodd Emma Haycocks, Rheolwr y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS): “Mae’r cyllid gan NHS Charities Together a’r rhoddion i’n helusen GIG yn Hywel Dda wedi golygu ein bod wedi gallu darparu miloedd o eitemau i helpu ein cleifion yn ystod y pandemig.

“Mae wedi bod yn gyfnod pryderus i gleifion ac mae staff ein GIG wedi wynebu heriau digynsail. Ond mae cefnogaeth y cyhoedd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn. ”

FLO with patient and distraction items

Prynwyd dros 3,000 o eitemau, gan gynnwys gemau, gweithgareddau, celf a chrefft, gliniaduron, eitemau garddio, teganau, posau, llyfrau chwilio geiriau, eitemau gwau ac offer ymarfer corff, i helpu i gadw cleifion yn brysur, yn enwedig pan nad oeddent yn gallu cael ymwelwyr .

Darparwyd trolïau a blychau storio hefyd ar gyfer gollwng eiddo cleifion ar ddechrau’r pandemig.

A phrynodd yr elusen setiau radio, setiau teledu a chwaraewyr DVD i leddfu diflastod yn ystod arosiadau ysbyty a peiriannau sychu dillaf ar gyfer cleifion na allent dderbyn dillad glân gan berthnasau.

Mewn cpartneriaeth rhwng Elusennau Iechyd Hywel Dda a Cangen De Orllewin a Chanolbarth Cymru o Eglwys Iesu Grist o Saint y Dyddiau Diwethaf, prynwyd dros 1,000 o becynnau croesoyn cynnwys masgiau llygaid, plygiau clust, clustffonau, cribau, brwsys dannedd a past – i helpu i wneud arhosiad claf yn yr ysbyty yn fwy cyfforddus.

A phrynwyd dyfeisiau meddygol ychwanegol i helpu i hwyluso eu rhyddhau a galluogi cleifion i gael gofal yn eu cartrefi eu hunain.

Cyflenwodd yr elusen grysau polo lliw unigryw ar gyfer y tîm newydd o Swyddogion Cyswllt Teulu (FLOs), a benodwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sicrhau bod cysylltiad hanfodol rhwng cleifion a’u teulu a’u ffrindiau.

FLO with patient and distraction items

Roedd y Swyddogion yn ased aruthrol, i’r cleifion mwyaf oedrannus a bregus yn benodol, wrth i nifer ohonynt yr ysbyty mewn ambiwlans gyda’r dillad yr oeddent yn eu gwisgo yn unig, heb ddillad nôs nac unrhyw ffordd o gysylltu â’u perthnasau.

Mae mwy na 250 o elusennau’r GIG ledled y DU, sy’n canolbwyntio ar helpu ein gwasanaeth iechyd i wneud mwy. Gyda’i gilydd, mae’r elusennau hyn yn rhoi £1m bob dydd i’r GIG fel y gall pobl aros yn iach am fwy o amser a gwella’n gyflymach.

A staff member with some of the toiletries supplied by Hywel Dda Health Charities

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Elusennau Iechyd Hywel Dda sydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni i godi a dosbarthu arian hanfodol y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn, fod y gefnogaeth i’r GIG lleol yn ystod y pandemig wedi bod yn rhyfeddol.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol ac NHS Charities Together yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here