7.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Local News Ceredigion News Ceredigion Council: Cyfle Gwaith

Ceredigion Council: Cyfle Gwaith

0
452
Ceredigion logo
Ceredigion logo

Swyddog Cymunedau Gwledig

Dyddiad Cau: 25/07/2021                              Cyfeirnod: REQ102999

 37 awr / Cyfnod Penodedig

 24,982 – 27,041 *

 Penmorfa, Aberaeron

*Mae’r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.                         Cais Ar-lein

 Ynglŷn â’r rôl

Rydym am recriwtio Swyddog Cymunedau Gwledig i ymuno â’n Gwasanaeth Adfywio ac Economi ar gytundeb amser llawn am dymor penodol, wedi’i leoli yn ein swyddfa yn Aberaeron.

Mae hon yn rôl gyffrous yn y gwasanaeth gan roi cyfle i ysbrydoli datblygiad gweithgaredd LEADER arloesol, sydd wedi’i arwain gan y gymuned, ar draws Ceredigion. Os oes gennych brofiad mewn meysydd fel adfywio, gwaith cymunedol neu ddatblygu economaidd, gallai hyn fod yn gyfle i chi. Bydd gennych rôl ganolog wrth ysgogi cymunedau gwledig Ceredigion, i gynyddu eu gallu i adeiladu gwybodaeth a sgiliau, arloesi a chydweithredu er mwyn goresgyn heriau lleol. Mae’r tasgau a’r llwyth gwaith yn newid o hyd, ac rydym yn chwilio am y sawl all feddwl yn arloesol ac ymateb yn bositif i heriau trwy gynnig atebion. Mae gennych nawr y cyfle i helpu i lunio dyfodol ein sir.

O ddydd i ddydd byddwch yn:

  • Hwyluso ymgysylltiad, cyfranogiad a mentora ystod o sefydliadau yn y sectorau cymunedol, cyhoeddus a phreifat i gynorthwyo gyda datblygu eu gweithgareddau
  • Hwyluso a chefnogi datblygiad prosiectau LEADER gyda darpar ymgeiswyr, gan fynd â phrosiectau trwy banel dethol ac arfarnu Gr”{p Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi
  • Darparu mentora, cyngor ac arweiniad parhaus
  • Datblygu a gweithredu systemau monitro i sicrhau cydymffurfiaeth prosiectau Cynllun Datblygu Gwledig LEADER â gofynion allbwn ariannol a chytundebol
  • Paratoi gwybodaeth fonitro yn rheolaidd

Rydym am recriwtio unigolyn gyda:

  • Brwdfrydedd ac ymrwymiad i waith cymunedol mewn ffordd greadigol
  • Profiad o ymgysylltu â chymunedau, busnesau, mentrau cymdeithasol, y trydydd sector, addysg uwch a’r sector cyhoeddus, gyda’r gallu i adeiladu perthnasoedd da
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
  • Profiad o ddatblygiad cymunedol gwledig cyfranogol
  • Hanes llwyddiannus o gyflawni prosiect
  • Dealltwriaeth o’r materion sy’n wynebu cymunedau gwledig a busnesau gwledig

Ariennir y swydd hon drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Meleri.richards@ceredigion.gov.uk

Cynhelir cyfweliadau: 03/08/2021

Noder: Cedwir yr hawl i estyn  y dyddiad cau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.