
Yn y llun uchod: Peter a Janet James gyda staff o’r Tîm Cancr y Pen a’r Gwddf a Ward Myrddin yn Ysbyty Glangwili.
Dathlodd y cwpl eu Priodas Aur ym mis Gorffennaf, gan gasglu eu holl ffrindiau a’u teulu ar gyfer parti gardd yn eu cartref.
Dywedodd Janet: “Yn lle anrhegion, gofynnom am roddion i’r Gwasanaeth Cancr y Pen a’r Gwddf a chodwyd swm gwych o £900.
“Cafodd Peter ofal rhagorol ar Ward Myrddin, Ysbyty Glangwili ym mis Mai 2019, lle cafodd lawdriniaeth laryngectomi. Hefyd, cafodd gefnogaeth wych bob amser gan y Tîm Therapi Iaith a Lleferydd yn Glangwili.
“Roedd hi’n hyfryd dathlu 50 mlynedd o briodas a hefyd rhoi rhodd i achos da. Hoffem ddiolch i’r holl staff ar Ward Myrddin, y Tîm Therapi Iaith a Lleferydd a’r holl bobl a gyfrannodd.”
Dywedodd Anwen Butten, Nyrs Arbenigol Glinigol Cancr y Pen a’r Gwddf: “Ar ran y Gwasanaeth Cancr y Pen a’r Gwddf, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r teulu am eu rhodd hael.
“Rydym yn gwerthfawrogi eu caredigrwydd yn fawr, a gallwn eu sicrhau y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio yn dda i gefnogi a bod o fudd i gleifion sy’n derbyn gofal yn ein gwasanaeth. Hoffem hefyd longyfarch y cwpl unwaith eto ar achlysur eu Priodas Aur.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Peter a Janet James am godi arian i ni yn ystod eu dathliad priodas. Dymunwn flynyddoedd lawer o hapusrwydd i chi gyda’ch gilydd”
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Josey Vaughan-Hughes, Cynorthwyydd Cyfathrebu, drwy e-bost yn Josey.Vaughan-Hughes@wales.nhs.uk neu trwy ffonio 07790 831735 / 01267 239815.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |















