8.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Farming Rhannwch eich cyngor diogelwch chi yn ystod #WythnosDiogelwchFferm eleni

Rhannwch eich cyngor diogelwch chi yn ystod #WythnosDiogelwchFferm eleni

0
395
100718 a sign warns the public not to enter a livestock shed c FLPA John Eveson REX Shutterstock rexfeatures 3301184a
100718 a sign warns the public not to enter a livestock shed c FLPA John Eveson REX Shutterstock rexfeatures 3301184a

Yn ystod #WythnosDiogelwchFferm eleni, gofynnir i ffermwyr rannu eu cyngor ynghylch sut i gadw eu hunain, eu teuluoedd, eu gweithwyr ac unrhyw ymwelwyr â’u tir yn ddiogel.

Mae’r Partneriaethau Diogelwch Fferm (FSP) ar draws Prydain yn cefnogi’r ymgyrch, a gynhelir gan y Sefydliad Diogelwch Fferm, ac eleni, mae’n canolbwyntio ar y ffordd y gall trefniadau rheoli risg effeithiol a gweithredu mesurau ataliol wneud cryn dipyn er mwyn lleihau nifer y damweiniau ar y fferm.

Dywedodd Dirprwy Lywydd NFU a Chadeirydd FSP Lloegr, Stuart Roberts:  “Fel diwydiant, rydym wastad yn dysgu o’n gilydd ac mae angen i ni ddilyn y feddylfryd honno o ddysgu pan fyddwn yn ystyried iechyd a diogelwch.

“Trwy rannu ein profiadau, ein syniadau a’n henghreifftiau o fesurau diogelwch profedig, gallwn gynnig datrysiadau i’n gilydd i broblem na fydd yn diflannu ar ei phen ei hun.

“Yr wythnos hon, byddaf yn rhannu’r mesurau yr wyf i wedi eu gweithredu er mwyn cadw fy hun a’m staff yn ddiogel, yn enwedig wrth i ni gychwyn ar yr adeg prysuraf o’r flwyddyn – y cynhaeaf – o ddarparu dillad llachar i sicrhau bod yr holl weithwyr yn cymryd egwyliau digonol.  Yn ogystal, rydw i wedi darganfod bod ystyried diogelwch o bersbectif busnes yn rhywbeth defnyddiol iawn.  Ni yw’r ased mwyaf gwerthfawr i’n busnesau, felly dylid rhoi blaenoriaeth i’n diogelwch ni.

“Mae’n bryd troi’r llanw ar gofnod diogelwch gwael byd amaeth – gyda geiriau, gweithredoedd a newid.  Felly gadewch i ni fanteisio ar yr wythnos hon fel cyfle i ysbrydoli a dysgu gan ein gilydd, i ddiogelu ein busnesau ac yn y pen draw, i ddiogelu ein hunain.”

Dywedodd Alun Elidyr, cyflwynydd teledu Cymraeg adnabyddus, ffermwr a llysgennad ar gyfer FSP Cymru:  “Trwy gydweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch ar y fferm, gallwn estyn allan i’r holl rai sy’n gweithio ar lawr gwlad, a’u hannog i gymryd camau a rhagofalon y maent yn aml yn rhai syml, ac y byddant yn lleihau nifer y marwolaethau trasig a’r anafiadau fydd yn newid bywyd sy’n digwydd yn ein diwydiant flwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Gallwn barhau i ymgyrchu i gadw ffermydd Prydain yn fannau diogel i weithio, ac mae’n rhaid i ni wneud hynny. Mae #WythnosDiogelwchFferm yn cynnig cyfle gwych i ni estyn allan i’r holl rai sy’n gweithio yn ein diwydiant ac y mae angen i ni ddylanwadu ar eu hymddygiad.”

Dywedodd Robin Traquair, Is-Lywydd NFU yr Alban, wrth siarad ar ran FSP yr Alban:  “Mae marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffermydd yn parhau i ddigwydd yn llawer rhy aml.  Mae gan bawb sy’n gweithio yn y diwydiant gyfrifoldeb i fod yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch ar y fferm fel y gellir atal damweiniau.  Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Fferm yn rhan hanfodol o ymrwymiad y diwydiant i leihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau difrifol, ac mae rhannu arfer da yn rhan hanfodol o hyn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.