Mae yna hwyl arswydus gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, sy’n lansio ras balŵn ecogyfeillgar Calan Gaeaf yn cychwyn o Gastell Dracula!
Dim ond £3 y balŵn ydyw, gyda’r holl elw’n mynd i’ch GIG lleol. Ac mae hyd yn oed gwobrau i’w hennill.

Cymerwch ran yn y ras y Calan Gaeaf hwn a gallech fod a siawns o ennill gwobrau gwych, gan gynnwys £500 neu iPad.
I gymryd rhan, ewch i https://ecoracing.co/user/page/1881, rhowch £3 a gallwch bersonoli balŵn a fydd yn cael ei nodi mewn ras balŵn eco rhithwir yn para wythnos, gan gychwyn o gastell Dracula ar 31 Hydref.

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gall pobl gysegru eu balŵn i rywun arbennig neu gymryd rhan am hwyl a gwybod y bydd eu rhodd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

“Gallwch chi gofrestru gymaint o weithiau ag y dymunwch. Beth am herio teulu a ffrindiau neu gydweithwyr i weld pa falwn sy’n teithio pellaf?”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |















