Mae Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog y rheiny sy’n mynd â chŵn am droi i fod yn ofalus iawn yn agos at ddyfrffyrdd a glannau afonydd ar ôl i gi Labrador a oedd wedi cwympo ar ddamwain i afon a oedd yn llifo’n gyflym ger Llangennech gael ei achub ddoe gan ddiffoddwyr tân o Lanelli sydd wedi’u hyfforddi’n hymatebwyr cyntaf i ddŵr.
“Diolch i’r drefn, roeddem wedi gallu achub y ci o lan yr afon gan ddefnyddio polion estyn a chyfarpar ar gyfer cerdded trwy ddŵr. Rydym yn annog y rheiny sy’n mynd â chŵn am dro i fod yn ofalus iawn yn agos at lannau afonydd a dyfrffyrdd. Yn sgil y glaw yr ydym wedi’i gael dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae’r dŵr yn llifo’n gyflym ac mae’n beryglus iawn. Roeddem yn gallu helpu y tro hwn ond gallai digwyddiad o’r fath droi’n drasiedi’n hawdd iawn”.
Yn ogystal â’r digwyddiad hwn, mae Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi gweld cynnydd mawr mewn galwadau sy’n gysylltiedig â llifogydd dros y 24 awr diwethaf. Mae llifogydd lleol wedi effeithio’n bennaf ar Dde Sir Gaerfyrddin, wedi’i dilyn yn agos gan ardal Abertawe.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















