16.4 C
Llanelli
Thursday, October 15, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Mae Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog y rheiny...

Mae Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog y rheiny sy’n mynd â chŵn am droi i fod yn ofalus iawn yn agos at ddyfrffyrdd a glannau afonydd.

0
406
Water Rescue First Responders scaled
Water Rescue First Responders scaled

Mae Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog y rheiny sy’n mynd â chŵn am droi i fod yn ofalus iawn yn agos at ddyfrffyrdd a glannau afonydd ar ôl i gi Labrador a oedd wedi cwympo ar ddamwain i afon a oedd yn llifo’n gyflym ger Llangennech gael ei achub ddoe gan ddiffoddwyr tân o Lanelli sydd wedi’u hyfforddi’n hymatebwyr cyntaf i ddŵr.

“Diolch i’r drefn, roeddem wedi gallu achub y ci o lan yr afon gan ddefnyddio polion estyn a chyfarpar ar gyfer cerdded trwy ddŵr. Rydym yn annog y rheiny sy’n mynd â chŵn am dro i fod yn ofalus iawn yn agos at lannau afonydd a dyfrffyrdd. Yn sgil y glaw yr ydym wedi’i gael dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae’r dŵr yn llifo’n gyflym ac mae’n beryglus iawn. Roeddem yn gallu helpu y tro hwn ond gallai digwyddiad o’r fath droi’n drasiedi’n hawdd iawn”.

Yn ogystal â’r digwyddiad hwn, mae Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi gweld cynnydd mawr mewn galwadau sy’n gysylltiedig â llifogydd dros y 24 awr diwethaf. Mae llifogydd lleol wedi effeithio’n bennaf ar Dde Sir Gaerfyrddin, wedi’i dilyn yn agos gan ardal Abertawe.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.