4.9 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Newyddion Lle Y Brifysgol yn taflu goleuni ar bwysigrwydd ailgylchu

Y Brifysgol yn taflu goleuni ar bwysigrwydd ailgylchu

0
649
Fulton House lit GRD 2 scaled
Fulton House lit GRD 2 scaled

Dangosodd Prifysgol Abertawe ei hymrwymiad i gynaliadwyedd drwy droi’n wyrdd i ddathlu Diwrnod Ailgylchu Byd-eang.

Cafodd Tŷ Fulton yng nghanol Campws Parc Singleton ei oleuo’n wyrdd gan oleuadau i ddathlu ailgylchu a chynyddu ymwybyddiaeth ohono a sut gall pawb wneud eu rhan.

Meddai Fiona Wheatley, Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu’r Brifysgol: “Fel cymuned Brifysgol â mwy na 24,000 o fyfyrwyr a staff, mae ein gweithredoedd ailgylchu ar y campws a chartref yn gallu cael effaith fawr iawn.

“Rydyn ni’n ymrwymedig i wneud popeth y gallwn, ond roedd Diwrnod Ailgylchu Byd-eang yn gyfle perffaith i atgoffa pawb y gallan nhw wneud eu rhan hefyd.”

Fulton House Lit

Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleusterau i ddidoli eitemau gwastraff ar y campws er mwyn sicrhau y caiff eitemau eu hailgylchu’n fwy effeithlon. Yn ystod blwyddyn academaidd 2019-20, gwnaeth ddargyfeirio 64% o’r holl wastraff ar y campws i ffwrdd o safleoedd tirlenwi ac adfer ynni, drwy ailddefnyddio eitemau, ailgylchu, ac anfon gwastraff bwyd i gael ei droi’n fio-nwy ac yn fio-gwrtaith.

Ychwanegodd Teifion Maddocks, Rheolwr Cynaliadwyedd y Brifysgol: “Mae lleihau gwastraff, cynyddu ailddefnyddio a didoli gwastraff ar gyfer ailgylchu dolen gaeedig yn cefnogi’r economi gylchol ac yn ein helpu i weld gwastraff fel adnodd. Felly, mae lleihau gwastraff a defnyddio adnoddau’n effeithlon ymysg ffocysau gweithredol allweddol Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd y Brifysgol ar gyfer 2021-2025.”

Mae mentrau ailgylchu eraill yn y Brifysgol yn cynnwys:

Gweithio gyda Warp It, y rhwydwaith ailddosbarthu adnoddau, i ailgylchredeg celfi diangen o gwmpas y Brifysgol er mwyn prynu llai o gelfi newydd a chreu diwylliant ailddefnyddio;

Gweithio gyda’r YMCA a’r British Heart Foundation er mwyn sicrhau bod y Brifysgol a’r myfyrwyr yn rhoi eitemau dieisiau, gan sicrhau y caiff eitemau eu hailddefnyddio ac y caiff llai o wastraff ei anfon i safleoedd tirlenwi, a chreu incwm i ymchwil ac elusennau;

Datblygu gwasanaethau ailgylchu plastig mewn labordai er mwyn cynyddu cynaliadwyedd arferion labordy; a

Fulton House Lit

Chyflawni Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Garbon a derbyn sgôr o 75% ar gyfer ei harferion rheoli gwastraff.

Mae’r Brifysgol yn gobeithio y bydd ei gweithredoedd yn:

Cynyddu cyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu yn y Brifysgol;

Cynyddu ymwybyddiaeth staff a myfyrwyr o bwysigrwydd gweld gwastraff fel adnodd; ac yn

Hyrwyddo cyfleusterau ailgylchu yn y Brifysgol er mwyn cynyddu defnydd a dealltwriaeth.

Sefydlwyd Diwrnod Ailgylchu Byd-eang yn 2018 er mwyn helpu i nodi a dathlu pwysigrwydd ailgylchu wrth ddiogelu adnoddau crai a diogelu dyfodol y blaned.

Ond nid ar Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang yn unig y gall pawb wneud eu rhan. Mae’r Brifysgol yn cynnig awgrymiadau i helpu myfyrwyr a staff i osgoi a lleihau gwastraff ac i ailgylchu ar ei champysau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.