8.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Newyddion Lle Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa cwsmeriaid i wirio cyn teithio’r Pasg hwn

Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa cwsmeriaid i wirio cyn teithio’r Pasg hwn

0
412
Llandudno Junction
Llandudno Junction
Transport For Wales News

Mae Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa cwsmeriaid i wirio cyn teithio dros benwythnos y Pasg gan fod disgwyl i drenau fod yn brysur ac mae gwaith peirianyddol hanfodol yn digwydd.

Yn Ne Cymru, bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Pontypridd a Radur drwy gydol y penwythnos wrth i waith barhau ar drawsnewid y rheilffordd ar gyfer Metro De Cymru, a fydd yn darparu gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a’r cymoedd.  Mae’r gwaith yn cynnwys gwaith gosod seilbyst a sylfaenu yn barod ar gyfer gosod offer llinellau uwchben.

Bydd y rheilffordd rhwng Aberdâr ac Abercynon hefyd ar gau o ddydd Sul 17 Ebrill tan ddydd Gwener 13 Mai, gyda bysiau yn rhedeg yn lle trenau rhwng Aberdâr a Phontypridd.  Bydd y cau hwn am 26 diwrnod yn galluogi peirianwyr i wneud gwaith cymhleth gan gynnwys gosod sylfeini ar gyfer offer llinellau uwchben, dymchwel ac ailadeiladu’r bont droed, gwneud gwaith platfform, cynnal a chadw a phrofi signalau.

Mae bysiau hefyd yn rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Thref Glynebwy drwy gydol y penwythnos wrth i Network Rail, partneriaid diwydiant Trafnidiaeth Cymru, barhau â’u gwaith i uwchraddio’r rheilffordd fel y gellir cyflwyno mwy o wasanaethau.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC:

“Bydd y gwaith hanfodol hwn yn golygu ein bod ni gam arall ymlaen o ran adeiladu Metro De Cymru ar gyfer pobl Cymru.

“Bydd y gwaith seilwaith allweddol yn caniatáu inni ei baratoi ar gyfer cyflwyno trenau newydd sbon yn y blynyddoedd i ddod, a fydd yn caniatáu inni redeg gwasanaethau cyflymach, amlach.

“Hoffwn ddiolch i’n cymdogion a’n teithwyr ar ochr y llinell ymlaen llaw am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus wrth i ni wneud y gwaith hwn.”

Dywedodd Rachel Heath, Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau Network Rail Cymru a’r Gororau:

“Rydym wedi cynllunio ein gwaith uwchraddio mawr ar Reilffordd Glyn Ebwy yn ofalus dros benwythnos gŵyl y banc.  Mae hyn er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein teithwyr, gan ein bod yn gwybod bod llai o bobl yn teithio ar y trên ar hyn o bryd.  Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau ond rydym yn dal yn annog pawb i wirio eu taith cyn teithio.

“Er ein bod, fel llawer o ddiwydiannau eraill, yn parhau i wynebu heriau staffio oherwydd Covid-19, hoffwn sicrhau ein teithwyr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cadw i symud.  Hoffwch ddiolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni oresgyn yr her hon.”

Mae disgwyl y bydd trenau yn brysur iawn dros benwythnos y Pasg, ac efallai y bydd newidiadau i wasanaethau yn cael eu gwneud ar fyr rybudd.  Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i gwsmeriaid rheilffyrdd ddefnyddio’r Gwiriwr Capasiti – porth ar-lein sy’n galluogi cwsmeriaid i wirio cyn teithio i weld pa drenau sydd â lle.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.