16 C
Llanelli
Monday, October 12, 2026
Home Newyddion Lle Gall Llu Heddlu Cymru Gyfan feithrin diwylliant plismona gwell yng Nghymru

Gall Llu Heddlu Cymru Gyfan feithrin diwylliant plismona gwell yng Nghymru

0
465
Adam Price
Adam Price

Gall creu Llu Heddlu Cymru Gyfan helpu i adennill ymddiriedaeth a meithrin diwylliant gwell  mewn Plismona yng Nghymru yn dilyn honiadau o hiliaeth, ‘misogyny’, a homoffobia o fewn Heddlu Gwent, meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS.

Gallai disodli’r pedwar heddlu presennol gyda dull gweithredu Cymru’n un heddlu arwain at “newid cadarnhaol mewn canlyniadau i ddioddefwyr a meithrin diwylliant plismona newydd yn seiliedig ar barch a chynhwysiant.”

Arweiniodd ailstrwythuro tebyg yn yr Alban, lle cafodd yr holl heddluoedd eu huno yn 2013, at newid cadarnhaol ar ôl heriau cychwynnol.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS:

“Mae’r honiadau a wnaed yn erbyn rhai swyddogion o fewn Heddlu Gwent yn peri pryder mawr.

“Dylai swyddogion heddlu fod y tu hwnt i waradwydd bob amser ac mae honiadau fel y rhain yn tanseilio gwaith caled y gwasanaethau brys sy’n gweithio ddydd a nos i gadw ein cymunedau’n ddiogel.

“Gall Cymru ddysgu gwersi o lwyddiant uno Heddlu’r Alban yn 2013 er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu dosbarthu’n deg ac yn ddoeth rhwng y rhanbarthau, a bod cysylltiadau gyda heddluoedd yn Lloegr yn parhau’n gryf i fynd i’r afael â throseddau trawsffiniol.

“Byddai un heddlu yn caniatáu gwasanaeth mwy effeithlon o ran Adnoddau Dynol, TGCh, caffael a’r holl seilwaith arall sy’n galluogi’r heddlu i wneud eu gwaith o ddydd i ddydd.

“Byddai diwygio radical yn gyfle i adfer yr ymddiriedolaeth sydd wedi’i herydu oherwydd digwyddiadau cywilyddus fel achos diweddar Heddlu Gwent. Gallai arwain at newid cadarnhaol mewn canlyniadau i ddioddefwyr a meithrin diwylliant plismona newydd yn seiliedig ar barch a chynhwysiant.

“Mae’r Adolygiad Strategol o Blismona yng Nghymru a Lloegr dan gadeiryddiaeth Syr Michael Barber eisoes wedi argymell uno swyddogaethau cefn swyddfa pob llu. Nawr yw’r amser i gymryd camau beiddgar a sicrhau bod yr heddlu yn y sefyllfa gryfaf posib i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.