6.5 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home hywel dda health board Arolwg diogelwch i ddechrau ar wardiau yn Ysbyty Llwynhelyg

Arolwg diogelwch i ddechrau ar wardiau yn Ysbyty Llwynhelyg

0
375
950115854af887db org min
950115854af887db org min

Mae cynlluniau wedi’u rhoi ar waith yn Ysbyty Llwynhelyg i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl wrth i waith arolygu pellach ddechrau ar blanciau to concrit mewn wardiau ar safle’r ysbyty yn Hwlffordd.

Daw’r gwaith yn sgil pryderon a godwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) am ddiogelwch deunyddiau a ddefnyddiwyd wrth adeiladu ysbytai’r GIG rhwng 1960 a 1995.

Gofynnwyd i bob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) benderfynu a oedd planciau concrit awyrog awtoclaf cyfnerth (RAAC) yn bresennol ar adeiladau mewn toeau, waliau neu loriau ac adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru (LlC). ) gyda’r canfyddiadau a chynllun rheoli.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Andrew Carruthers, fod y broses hon wedi nodi presenoldeb nifer fawr o blanciau RAAC yn nho Ysbyty Llwynhelyg. Gall y planciau hyn gael eu gwanhau gan fynediad ddŵr am gyfnod hir.

“Dangosodd ymchwiliadau pellach ym mis Ionawr 2022 a chanllawiau a oedd yn dod i’r amlwg fod angen rhaglen fanwl o ymchwiliadau i bennu cyflwr y planciau concrit ac i ddarparu’r sicrwydd parhaus ynghylch diogelwch y planciau hyn oherwydd graddfa presenoldeb planciau RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg,” meddai Mr Carruthers.

“Mae adolygiadau blaenorol wedi nodi nad oes unrhyw bryderon iechyd a diogelwch ar hyn o bryd ond mae’r arolwg yn Ysbyty Llwynhelyg yn cael ei gynnal i ganfod unrhyw waith y gallai fod ei angen yn y dyfodol.”

Bydd yr arolygon yn Ysbyty Llwynhelyg yn cael eu cwblhau fesul ward, fesul planc. Disgwylir y bydd y gwaith hwn yn achosi cryn aflonyddwch ac yn cymryd tua naw mis i’w gwblhau.

Er mwyn cwblhau’r gwaith, a fydd yn dechrau ganol mis Mai, bydd rhai cleifion a staff ysbyty yn symud i Ward Cleddau yn Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro.

Dywedodd Mr Carruthers y gall staff, cleifion a’r cyhoedd fod yn sicr bod y sefyllfa’n cael ei monitro’n agos ac nad oes unrhyw bryderon diogelwch uniongyrchol.

“Nid yw’r sefyllfa’n unigryw i Llwynhelyg gydag ysbytai eraill ar draws y DU yn wynebu heriau tebyg. Mae strwythur yr adeilad yn gadarn ond efallai y bydd angen gwaith atgyweirio os canfyddir planciau RAAC diffygiol.

“Mae’n rhy gynnar i asesu faint o waith adfer fydd ei angen. Mae’r tîm Ystadau yn gweithio gyda rheolwyr clinigol a nyrsio i darfu cyn lleied â phosibl ar staff a chleifion. Bydd gennym well syniad o gwmpas y gwaith atgyweirio unwaith y bydd y gwaith arolygu wedi’i gwblhau.”

Mae’r gwaith hwn i’w wneud ochr yn ochr â’r rhaglen waith Diogelwch Tân presennol sydd hefyd yn cyflwyno heriau o ran sicrhau bod lle ar gael ar gyfer gwaith.

“Mae arolwg planciau RAAC a gwaith diogelwch tân yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus i gadw Ysbyty Llwynhelyg yn hyfyw ar gyfer y dyfodol,” meddai Mr Carruthers.

Yn yr un modd â safleoedd eraill Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae ardal fach yn Ysbyty Bronglais y mae mater RAAC yn effeithio arni. Mae’r planciau yn Ysbyty Bronglais wedi’u lleoli mewn un ystafell beiriannau a bydd arolwg a chynllun rheoli ar wahân yn cael eu gweithredu ar y safle hwn yn y dyfodol agos.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.