11 C
Llanelli
Wednesday, October 21, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Ford Gron Dinbych-y-pysgod yn rhoi £1,250 i Uned Gofal Arbennig i Fabanod

Ford Gron Dinbych-y-pysgod yn rhoi £1,250 i Uned Gofal Arbennig i Fabanod

0
395
Tenby Round Table scaled
Tenby Round Table scaled

Mae Ford Gron Dinbych-y-pysgod wedi rhoi £1,250 i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Pan aned mab Edward Spence, cyn-Gadeirydd Ford Gron Dinbych-y-pysgod, fis Ebrill diwethaf, treuliodd sawl awr yn SCBU.

 Derbyniodd ofal a chymorth eithriadol gan y gwasanaeth, a dyna pam roedd y grŵp eisiau rhoi i’r uned.

 Meddai Edward: “Mae Ford Gron Dinbych-y-pysgod yn grŵp o wirfoddolwyr sy’n codi arian drwy gydol y flwyddyn i gefnogi amrywiaeth o achosion ac elusennau lleol a chenedlaethol.

“Rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod a’i staff gwych gyda rhywfaint o elw ein Summer Spectacular a gynhelir gennym bob haf yn Harbwr Dinbych-y-pysgod.”

Dywedodd Bethan Odmundson, Uwch Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Ford Gron Dinbych-y-pysgod am eu rhodd garedig. Mae tîm SCBU ar hyn o bryd yn gweithio ar nifer o brosiectau y bydd ein rhoddion elusennol yn eu hariannu.

 “Bydd y rhodd garedig gan Ford Gron Dinbych-y-pysgod yn cael ei ddefnyddio i brynu nifer o eitemau a fydd yn cyfoethogi profiad teuluoedd, er enghraifft, pecynnau gofal; eitemau i ddiwallu anghenion amrywiol teuluoedd yn ystod eu cyfnod yn yr uned ac i wneud eu harhosiad mor gyfforddus â phosibl; ystafell newydd i rieni a theuluoedd, a theganau meddal.

 “Mae’r tîm yn rheolaidd yn prynu amrywiaeth o deganau meddal cyfatebol sy’n cael eu cynnig i deuluoedd pan fydd cyfnod o wahanu ac nad yw rhiant yn gallu bod gyda’i faban am resymau iechyd. Cedwir un tegan gan y rhieni a chedwir yr un paru gyda’r babi, gan roi cysur i’r teuluoedd.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr i Edward a Ford Gron Dinbych-y-pysgod am eu rhodd wych.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.