8.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Newyddion Lle Y gwasanaeth diweddaraf rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cael sêl bendith cwsmeriaid

Y gwasanaeth diweddaraf rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cael sêl bendith cwsmeriaid

0
421
t1 min
t1 min

Transport For Wales News

Mae dros 100,000 o gwsmeriaid wedi teithio ar wasanaeth diweddaraf TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ers ei ail-lansio pryd ymgorfforwyd bysiau trydan i’r gwasanaeth yn gynharach eleni.

Mae nifer y teithwyr wedi cynyddu o 16,000 ym mis Mawrth i 19,000 ym mis Ebrill, 23,000 ym mis Mai a 26,000 ym mis Mehefin a’r un fath eto ym mis Gorffennaf.

Mae’n gynnydd cyffredinol o 36,000 o deithwyr o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth Trafnidiaeth Integredig Trafnidiaeth Cymru:

“Mae’r gwasanaeth a ail-lansiwyd wedi canolbwyntio ar ddarparu’r profiad gorau posibl i’n teithwyr tra’n cadw prisiau tocynnau’n fforddiadwy.

“Rydym yn hapus iawn gyda pha mor lwyddiannus y mae’r gwasanaeth wedi bod yn ystod y chwe mis cyntaf ers cyflwyno’r bysiau newydd.  Ein ffocws nawr yw parhau i wella ein gwasanaeth yn dilyn adborth defnyddwyr.”

Gwasanaeth T1 TrawsCymru, a weithredir gan First Cymru, yw’r contract bws cyntaf i gael ei reoli gan TrC.

Mae’r bysiau a ddefnyddir ar y gwasanaeth yn fodern tu hwnt, ac maent yn gweithredu o ddepo pwrpasol newydd yng Nghaerfyrddin.  Mae’r teithiau a wna’r bysiau trydan hyn ymysg rhai o’r teithiau bws trydan hiraf yn y DU – mae’r daith yn ôl ac ymlaen yn 104 milltir.

Mae pob cerbyd yn arbed 3kg o CO2 fesul taith gyflawn, sy’n cyfateb i dros 12,700 cwpan o de.

Mae’r bysiau’n cynnig nifer o nodweddion rhagorol a modern gan gynnwys goleuadau darllen, byrddau, gwefru diwifr a socedi USB, cadeiriau gyda breichiau, sgriniau gwybodaeth a system puro aer.

Dywedodd Marie Cronin, Rheolwr Gweithrediadau First Cymru:

“Pleser yw gallu bod yn rhan o lwyddiant gwasanaeth T1 TrawsCymru.  Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid, a chyda’r busiau trydan hyn yn darparu technoleg o’r radd flaenaf a nodweddion sy’n gwella profiad ein cwsmeriaid, mae’r nifer cynyddol o deithwyr yn dyst i’r buddsoddiad hwnnw.”

Ar y bysiau, mae’r wybodaeth a’r cyhoeddiadau am y safle bws nesaf yn ddwyieithog; mae hyn yn cefnogi ein defnyddwyr sydd a namau gweledol a/neu glyw a phobl sy’n newydd i deithio ar fws, y rheini sy’n anghyfarwydd â’r llwybr neu’r rheini sydd a diffyg hyder.

Mae teithwyr sy’n teithio i orsafoedd trenau yn elwa ar gyhoeddiadau byw ynghylch pryd amseroedd gadael ein trenau, sy’n cefnogi cludiant integredig ac aml-fodd.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“Pleser gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw bod yn rhan o lansio’r gwasanaeth bws strategol allweddol hwn rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.  Mae wedi llwyddo i wella llwyddiant y gwasanaeth gyda gwasanaethau Flecsi – Bwcabws sy’n rhyng-gysylltiol, sy’n ymateb i’r galw ac sy’n rhoi gwybodaeth amser real i deithwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i   www.traws.cymru

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.