8 C
Llanelli
Friday, October 16, 2026
Home hywel dda health board Cyhoeddi digwyddiad ymgysylltu ychwanegol meddygfa Talcharn

Cyhoeddi digwyddiad ymgysylltu ychwanegol meddygfa Talcharn

0
489
8f5469d071286354 org scaled
8f5469d071286354 org scaled

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trefnu digwyddiad galw heibio cyhoeddus arall yn Nhalacharn, i roi cyfle pellach i gleifion drafod y cais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen Talacharn.

Cynhelir y digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus hwn rhwng 3.00pm a 6.00pm ddydd Mawrth, Chwefror 6ed 2024 yn Neuadd Goffa Talacharn.

Derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDdUHB) gais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen Talacharn yn Sir Gaerfyrddin yn gynharach eleni.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mewn ymateb i nifer y cleifion sydd wedi mynegi dymuniad i gymryd rhan yn y digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ond nad oeddent yn teimlo eu bod yn gallu codi eu holl bryderon yn y sesiwn ym mis Tachwedd 2023 cynhelir digwyddiad ymgysylltu pellach ar gyfer y bobl hynny nad ydynt wedi cael y cyfle i rannu eu barn hyd yn hyn.

“Bydd yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan gleifion a rhanddeiliaid yn y rhaglen ymgysylltu hyd yn hyn yn cael ei lunio gyda’r safbwyntiau o ail ddigwyddiad, a’r digwyddiad olaf, i’w gynnal ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024. Mae hyn yn golygu na fydd argymhelliad ar y ffordd ymlaen yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Iechyd tan fis Mawrth 2024.”

Y prif resymau dros y cais i gau meddygfa gangen Talacharn yw:

• Mae’r Feddygfa wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.

• Er mwyn diogelu’r ddarpariaeth o wasanaethau meddygol cyffredinol, mae Partneriaid Meddygon Teulu’r Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr wedi gwneud y penderfyniad anodd i wneud cais i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Practis Meddyg Teulu yn y dyfodol.

• Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.