17.6 C
Llanelli
Wednesday, August 26, 2026
Home Education Mae prentis sydd erbyn hyn yn addysgwr yn anelu am y sêr...

Mae prentis sydd erbyn hyn yn addysgwr yn anelu am y sêr gan gynrychioli Tîm y Deyrnas Unedig yn nigwyddiad sgiliau mwyaf mawreddog y byd.

0
26
RosieBoddy
RosieBoddy

Bydd Rosie Boddy, cyn-Brentis Awyrennau Airbus – sydd erbyn hyn yn Swyddog Hyfforddiant Technegol yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy – yn cystadlu yn y categori Cynnal a Chadw Awyrennau yn WorldSkills 2024, sy’n cael ei chynnal fis Medi yn Lyon, Ffrainc.

Mae Rosie, sy’n 22, o Farnborough yn wreiddiol. Mae hi’n byw ym Mrychdyn erbyn hyn ac yn un o ddim ond 31 o gystadleuwyr o’r Deyrnas Unedig. Mae Rosie yn edrych ymlaen at yr her o gystadlu yn erbyn pobl ifanc 25 oed ac iau o dros 65 o wledydd.  

Roedd Rosie wrth ei bodd i gael swydd barhaol yn y coleg ar ôl cwblhau Diploma Estynedig NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrennau.

Roedd Rosie yn diolch i dîm Gyrfaoedd Cynnar Airbus ac i staff a chyn-ddarlithwyr y coleg am eu cefnogaeth, yn arbennig y Cyfarwyddwr Cwricwlwm – Prentisiaethau Llawn Amser, Jamie Mapp-Jones.

“Roeddwn i mor falch o gael fy newis ar gyfer Tîm y Deyrnas Unedig, mae’n brofiad heb ei ail,” meddai.

“Dechreuodd fy nhaith WorldSkills UK yn ôl yn 2021 gydag Airbus. Roeddwn i’n cystadlu yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, a’r un peth yn y flwyddyn ganlynol, gan ennill medal aur yn y categori Cynnal a Chadw Awyrennau.

“Cefais fy newis i fod yn rhan o Garfan y Deyrnas Unedig a chefais 14 mis o hyfforddiant yn rhan o hyn. Mae cael bod yn rhan o Dîm y Deyrnas Unedig rŵan a chael cynrychioli fy ngwlad yn anhygoel.

“Mae’r broses wedi bod yn un heriol ac roedd llawer o’r hyfforddiant yn digwydd o amgylch gwaith ac ar ddiwrnodau pan nad oeddwn i’n gweithio. Mae’n siŵr o fynd yn anoddach yn y cyfnod sy’n arwain at fis Medi ond rydw i wedi cyffroi’n llwyr am y daith ac mor ddiolchgar am y profiad.” 

Rosie Boddy

Ychwanegodd Rosie: “Mae Coleg Cambria ac Airbus wedi bod yn hynod gefnogol drwy gydol fy mhrentisiaeth ac rŵan mod i’n aelod o staff, fedra’i ddim diolch digon iddyn nhw am hynny.

“Mae’r gefnogaeth gan bawb yn WorldSkills UK hefyd wedi bod yn anhygoel trwy gydol y broses. Maen nhw wir yn eich gwthio i fod y gorau y gallwch chi ei fod, o safbwynt sgiliau ac o’r ochr perfformiad a llesiant sydd mor bwysig ar gyfer cystadleuaeth.

“Byddwn i wir yn annog pobl ifanc i gymryd rhan, mae’n ffordd wych o feithrin eich sgiliau a rhoi hwb i’ch gyrfa. Mae’r hyfforddiant a gefais yn ystod y broses wedi bod yn wych ac rydw i wedi dysgu cymaint yn barod sydd wedi fy helpu yn fy swydd yng Ngholeg Cambria.

“Rydw i wedi cynhyrfu’n lân am Lyon, mae’n mynd i fod yn gyfle anhygoel i ddangos fy sgiliau ac rydw i’n falch iawn o fod yn rhan ohono.”

Roedd Jamie yn canmol Rosie am ei hymroddiad i’r broses WorldSkills a dywedodd: “Dangosodd Rosie yn glir ei sylw i fanylion yn ystod ei blwyddyn gyntaf fel prentis a gwnaeth ymdrech i wella ei sgiliau a’i gwybodaeth fel Peiriannydd Awyrennau.

“Mae’r gwytnwch y mae Rosie wedi’i ddangos wrth berfformio yng nghystadleuaeth genedlaethol y Deyrnas Unedig yn HMS Sultan, ac wrth dreulio blwyddyn arall yn hyfforddi i ennill aur yng Nghaerdydd flwyddyn yn ddiweddarach, yn dangos ei bod hi’n amlwg ei bod ar y trywydd iawn ar gyfer y cyfle gwych hwn i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth fawreddog hon.”

Rosie Boddy

Bydd Tîm y Deyrnas Unedig yn cystadlu mewn meysydd yn cynnwys seiberddiogelwch, ynni adnewyddadwy, adeiladu digidol, coginio, trin gwallt, a phaentio ac addurno.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “WorldSkills Lyon 2024 – meddyliwch am y Gemau Olympaidd – a’r wobr yw’r sgiliau o safon fyd-eang y mae cyflogwyr y Deyrnas Unedig yn crefu amdanynt.

“Allwn i ddim bod yn fwy balch o’r bobl ifanc eithriadol sydd yn Nhîm y Deyrnas Unedig; maen nhw’n fodelau rôl gwych.”

Dywedodd Luke Hall, y Gweinidog ar gyfer Sgiliau, Prentisiaethau ac Addysg Uwch: “Pob lwc i’n cystadleuwyr hynod dalentog. Mae WorldSkills yn gyfle gwych i brofi ar y llwyfan byd-eang ein bod wedi adeiladu system sgiliau a phrentisiaethau o safon fyd-eang. Rwy’n gobeithio gweld ein prentisiaid a’n myfyrwyr ar y podiwm yn Lyon.”

I gael rhagor o wybodaeth am WorldSkills eleni, ewch i’r wefan: WorldSkills UK | Raising Apprenticeships & Technical Education Standards.

 

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

 

DIWEDD

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.