9.9 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Newyddion Lle Trenau newydd ar lein Penfro ar gyfer yr haf

Trenau newydd ar lein Penfro ar gyfer yr haf

0
412
Class 197 at Pembroke Dock
Class 197 at Pembroke Dock

Gall teithwyr fydd yn teithio i gyrchfannau poblogaidd fel Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot nawr deithio ar drenau newydd sbon gan y bydd trenau dosbarth 197 Trafnidiaeth Cymru yn dechrau gwasanaethu at hyd lein Penfro.

Ymddangosodd y trenau Dosbarth 197, trenau a adeiladwyd yng Nghymru, am y tro cyntaf ar y lein rhwng Abertawe/Caerfyrddin a Doc Penfro ddydd Llun 10 Mehefin, gyda’r mwyafrif o wasanaethau’n cynnwys tri cherbyd.

Mae modd cynnal gwasanaethau pedwar cerbyd ar y lein, sy’n creu mwy o le ac yn gwneud y daith yn fwy cyffyrddus yr haf hwn.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru: “Ers i’r cyntaf o’n trenau newydd sbon ddechrau gwasanaethu’r llynedd, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ychwanegu mwy o lwybrau ledled Cymru.

“Rydym yn falch iawn o allu dechrau rhedeg trenau newydd ar lein Penfro yn barod ar gyfer gwyliau’r haf.

“Mae TrC wedi ymrwymo i ddarparu dewis amgen i bobl yn lle’r car.  Mae’r trenau newydd hyn yn gyfforddus iawn – mae ganddynt seddi gwell, system aerdymheru a sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid.”

Wedi’i hadeiladu yn ffatri drenau CAF yn Llanwern, Casnewydd, bydd 77 o’r 197 o drenau dosbarth 197 yn gwasanaethu ledled Cymru ac ar hyd ei ffin a’r Gororau unwaith y byddant i gyd ar waith.  Y trenau hyn fydd asgwrn cefn y fflyd ar hyd ein prif lein.

Er bod y cyfnod ymgynefino’n parhau, efallai y bydd cwsmeriaid yn dal i weld rhai o’r trenau hŷn ar waith ond bydd y rhain yn gadael y gwasanaeth yn raddol dros y blynyddoedd nesaf.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.