7.8 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Hwb o £5,000 i Apêl Gerddi gan un o gefnogwyr Ysbyty Tywysog...

Hwb o £5,000 i Apêl Gerddi gan un o gefnogwyr Ysbyty Tywysog Philip

0
873
Eleanor James cheque presentation scaled
Eleanor James cheque presentation scaled

Mae’r godwr arian Eleanor James wedi rhoi hwb i Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip drwy gyfrannu swm gwych o £5,000 i’r achos ar ran y grŵp Air Raise.

Bwriad yr Apêl yw codi £100,000 i greu gerddi therapiwtig newydd i gleifion ar wardiau Bryngolau a Mynydd Mawr.

Yn ogystal â’r rhodd o £5,000 i’r Apêl, rhoddodd Eleanor £5,688.47 hefyd i Gronfa Anadlol Ysbyty Tywysog Philip.

Cafodd y grŵp Air Raise ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl gan y diweddar Diane James a Rona Williams.

Roedd asthma ar y ddwy ac roeddent am roi rhywbeth yn ôl i werthfawrogi’r gofal a’r cymorth a gawsant gan y tîm Anadlol yn Ysbyty Tywysog Philip.

Ymunodd Eleanor â nhw fel cefnogwr Air Raise a chymerodd yr awenau fel trefnydd y grŵp pan fu farw Diane a Rona.

Derbyniodd Air Raise roddion o eitemau gan y gymuned leol gan gynnwys llyfrau, gemwaith, eitemau wedi’u gwau/crosio, ac ati, ac roedd ganddynt stondin yn nerbynfa’r ysbyty lle gwerthwyd yr eitemau i gleifion, ymwelwyr a staff.

Dros y blynyddoedd gwnaed llawer o roddion gan y grŵp i’r tîm Anadlol.

Yn anffodus, daeth Covid â’r stondin i ben a phenderfynodd Eleanor ymddeol a chau’r grŵp Air Raise.

Dywedodd Eleanor: “Rwyf wedi mwynhau fy mlynyddoedd lawer o fod yn rhan o Air Raise yn fawr iawn, mae wedi rhoi boddhad i gefnogi’r ysbyty lleol a chwrdd â chymaint o bobl hyfryd ar hyd y ffordd.

“Hoffwn ddiolch i drefnwyr gwreiddiol Air Raise, y diweddar Diane James a Rona Williams, ynghyd â’u cefnogwr, y ddiweddar Sheila Thomas, am bopeth a wnaethant.”

Dywedodd Daniel Jones, Rheolwr Ward Bryngolau: “Rydym mor ddiolchgar am y rhodd hon a fydd yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i gleifion a staff wardiau Bryngolau a Mynydd Mawr.

“Diolch yn ddiffuant i Eleanor a’r grŵp Air Raise am eu cefnogaeth anhygoel i’r ysbyty dros y chwarter canrif diwethaf.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.