7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home News Health News Gweinidog yn darganfod mwy am gymorth iechyd meddwl i rieni a babanod

Gweinidog yn darganfod mwy am gymorth iechyd meddwl i rieni a babanod

0
2390
a0eae7aee0042d1d org
a0eae7aee0042d1d org

Heddiw, ymwelodd Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant â Chanolfan Llesiant Seicolegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng Nghaerfyrddin.

Fe wnaeth hi ddarganfod mwy am y therapi seicolegol a chymorth a’r llwybrau a gynigir i rieni a’u babis gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol, a hynny ar y cyd â staff y Gwasanaethau Niwroamrywiaeth.

Cymerodd Ms Murphy ran mewn sesiwn ‘Adfer drwy Weithgaredd’ ac fe’i gwelir yma gyda Gemma Buffrey o Lanelli a’i mab Kobyn 14 mis oed, sydd wedi elwa o’r gwasanaeth.

Hefyd yn y llun o’r chwith mae Eleanor Marks, Is-Gadeirydd y Bwrdd Iechyd; Dr Nicola Peeke; Emily Dwyer, Arweinydd Tîm Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig; Angela Lodwick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu; Rebecca Temple-Purcell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio; Jane Whalley, Rheolwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod; Catherine Vaughan, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Niwroddatblygiadol; Diane Lewis, Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod a Lisa Davies, Ymwelydd Iechyd Arbenigol Amenedigol.

Dywedodd Angela Lodwick: “Roeddem yn falch iawn o groesawu Sarah heddiw a rhoi’r cyfle iddi ddarganfod mwy am rywfaint o’r gwaith cydweithredol ac arloesol anhygoel o fewn ein gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a niwrowahaniaeth.

“Roedd ein tîm yn gallu rhoi rhywfaint o fewnwelediad iddi i’r gwaith rydym yn ei wneud a dywedodd ei bod wedi’i phlesio’n fawr gan y gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig yma.

“Yn ogystal, cafodd hi’r cyfle i sgwrsio gyda rhai o’r mamau sy’n defnyddio’n gwasanaethau’n rheolaidd ac i glywed sut y maen nhw wedi eu helpu.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles Sarah Murphy: “Roeddwn yn falch o gwrdd â staff, mamau a babanod yn y Gwasanaeth Amenedigol Iechyd Meddwl y bore yma. Roedd yn gyfle i glywed sut mae gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi mamau newydd pan fyddant yn teimlo’n fwyaf bregus. Roeddwn yn falch i glywed yr adborth gan y menywod – dywedodd un fam wrthyf na fyddai hi lle mae hi heddiw heb y gwasanaeth.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.