10.5 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Events Celebration Gwobrau unwaith-mewn-oes yn Eisteddfod yr Urdd 2025

Gwobrau unwaith-mewn-oes yn Eisteddfod yr Urdd 2025

0
506
Gwobrau Urdd x CBCDC
Gwobrau Urdd x CBCDC

Mae Urdd Gobaith Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn falch o gyhoeddi enwau chwe gwobr newydd sbon i gystadleuwyr sy’n serennu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd eleni, gyda chefnogaeth rhai o dalentau mwyaf Cymru.

Bydd y gwobrau newydd yn cynnwys sesiynau mentora i chwe unigolyn 19-25 oed gyda Syr Bryn Terfel, yr actor Matthew Rhys, y ddawnswraig broffesiynol Amy Dowden, y feiolinydd Rakhi Singh, yr enillydd BAFTA Callum Scott Howells ac un o reolwyr digwyddiadau fwyaf profiadol Cymru, Sarah Hemsley-Cole.

Mae enwau’r gwobrau newydd fel a ganlyn:

  • Gwobr Syr Bryn Terfel (lleisiol)
  • Gwobr Amy Dowden (dawns)
  • Gwobr Callum Scott Howells (sioe gerdd)
  • Gwobr Matthew Rhys (theatr)
  • Gwobr Rakhi Singh (offerynnol)
  • Gwobr Sarah Hemsley-Cole (cefn llwyfan)

Daw’r datblygiad yma yn sgil llwyddiant partneriaeth newydd yr Urdd a CBCDC yn 2024, er mwyn cynnig profiadau amhrisiadwy i chwech o gystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd – o ddosbarthiadau meistr yn eu disgyblaethau perthnasol, i gyfleoedd i berfformio ar lwyfan rhyngwladol. Bydd y gwobrau newydd hefyd yn cynnwys cefnogaeth ariannol tuag at hyfforddiant pellach.

“Fel rhywun sy’n gysylltiedig ag Eisteddfod yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, rwy’n falch iawn o gefnogi’r wobr hon,” meddai Syr Bryn Terfel. “Mae ysbrydoli perfformwyr Cymreig y dyfodol yn hanfodol, ac edrychaf ymlaen at weld y Llysgenhadon Celfyddydol newydd yma’n ffynnu.”

Mae’r gwobrau yn “gyfle euraidd” yn ôl Matthew Rhys: “Fel un sydd â chysylltiad cryf gyda’r Urdd a CBCDC, mae mor gyffrous gweld partneriaeth y ddau fudiad yn parhau i gefnogi a meithrin talentau’r dyfodol,” meddai’r actor adnabyddus. “Rwyf mor falch o gael bod yn llysgennad i’r wobr theatr, ac yn edrych ymlaen yn fawr i wylio perfformiadau actorion ifanc Cymru wrth iddynt gystadlu am y wobr newydd hon. Ewch amdani, dyma gyfle euraidd i ddatblygu eich gyrfa ac ennill profiadau anhygoel drwy’r Urdd a’r Coleg.”

“Dawnsio yw fy mywyd ers tyfu fyny yng Nghymru a chystadlu o oedran ifanc,” meddai Amy Dowden (Strictly Come Dancing)“Rwy’n hynod gyffrous o gael bod yn rhan o’r wobr newydd hon ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr. Ar y cyd gyda’r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gallwn gynnig cyfleoedd perfformio a datblygu i berfformwyr ifanc mwyaf addawol Cymru. Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan!”

Mae’r actor Callum Scott Howells (It’s a Sin) yn un o raddedigion CBCDC: “Rwy’n falch iawn i fod yn Lysgennad i’r wobr theatr gerdd newydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Rydw i wedi bod mor ffodus o gael pobl yn fy helpu a chynnig arweiniad ar ddechrau fy ngyrfa ac yn gwybod pa wahaniaeth mae cael y gefnogaeth gywir yn gallu ei wneud. Fel un o raddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fy hun, gwn pa mor werthfawr yw’r cyfleoedd mentora a pherfformio a gynigir gan y Coleg. Mae’r Urdd wedi bod yn darparu llwyfan a chyfleoedd i dalent ifanc Cymru ddisgleirio ers degawdau, felly mae gweld y ddau sefydliad Cymreig yn cydweithio yn gyffrous iawn ac alla i ddim aros i ddathlu sêr y dyfodol!”

“Mae’n bwysicach nac erioed i’n cerddorion ifanc yng Nghymru dderbyn cefnogaeth, ac mae gymaint o dalent yma i fod yn falch ohono,” meddai’r feiolinydd, y cyfarwyddwr cerddoriaeth a’r cyfansoddwr Rakhi Singh. Mae’r Urdd a CBCDC yn gwneud gwaith anhygoel yn datblygu artistiaid y dyfodol, ac rwyf wrth fy modd yn cael bod yn llysgennad i’r Wobr offerynnol newydd. Hoffwn annog pob cerddor ifanc i ymgeisio am y cyfle hwn, ac ennill profiadau fydd yn eu harwain at yrfa yn y byd cerddoriaeth, ar lwyfan genedlaethol a rhyngwladol.”

Meddai Sarah Hemsley-Cole: “Y rhai sy’n gweithio cefn llwyfan yw asgwrn cefn y diwydiant creadigol, ac rwyf mor falch o gefnogi y wobr newydd hon gan yr Urdd a CBCDC. Mae’n holl bwysig bod ein sefydliadau cenedlaethol yn datblygu cenhedlaeth nesaf o arweinwyr y diwydiant, a taflu golau ar y gwaith sy’n cael ei guddio tu ôl i’r llenni. Gobeithiaf y bydd pob aelod o griw cynhyrchu a thechnegwyr ifanc yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac edrychaf ymlaen i fentora’r enillydd a rhoi cyfleoedd iddynt i agor drysau i yrfa yn y maes creadigol.”

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 rhwng y 26ain a’r 31ain o Fai ym Mharc Margam ac mae angen i gystadleuwyr 19-25 oed gofrestru i gystadlu erbyn 3 Mawrth. Bydd tîm o feirniaid sy’n cynrychioli’r Urdd a CBCDC yn bresennol yn yr ŵyl i benderfynu ar y chwech buddugol, a’r enwau’n cael eu cyhoeddi’n fyw ar S4C ar ddiwrnod olaf y cystadlu.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.