Practisau deintyddol lleol yn derbyn Gwobr Aur am gynaliadwyedd

0
316
Local dental practices receive Gold Award for sustainabilityAman dental and Cardigan dental teams
Local dental practices receive Gold Award for sustainabilityAman dental and Cardigan dental teams

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda longyfarch Practisau Deintyddol lleol – Deintyddfa Aman a Deintyddfa Aberteifi, am ennill Gwobr Aur Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Mae’r gydnabyddiaeth fawreddog hon yn amlygu eu hymrwymiad rhagorol i gynaliadwyedd tra’n darparu gofal cleifion o ansawdd uchel.

Mae Deintyddfa Aman, a leolir yn Rhydaman a  Deintyddfa Aberteifi, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi wedi bod yn gwasanaethu’r Gymuned leol gyda gofal deintyddol ers blynyddoedd, tra’n dangos ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd.

Mae’r ddau bractis teuluol yn cynnig ystod eang o driniaethau o archwiliadau deintyddol arferol a glanhau proffesiynol i weithdrefnau deintyddiaeth gosmetig i wella iechyd ac ymddangosiad deintyddol.

Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn cefnogi timau gofal sylfaenol i gymryd camau gwirfoddol i wella eu cynaliadwyedd amgylcheddol. Er mwyn cyflawni ‘Gwobr Aur’ sef eu cydnabyddiaeth uchaf, rhaid i bractisau gwblhau 24 o gamau gweithredu penodol o’r fframwaith, sy’n cynnwys dros 50 o fesurau sy’n cyd-fynd â Chynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru. Mae’r camau gweithredu hyn yn rhychwantu meysydd fel rheoli gwastraff, caffael, ac arferion gwaith cynaliadwy, gan rymuso timau i greu effaith gadarnhaol ar gyfer yr amgylchedd heb fod angen adnoddau sylweddol.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, “Rwyf am estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Deintyddfa Aman a Deintyddfa Aberteifi am ennill y Wobr Aur. Mae eu hymroddiad i gynaliadwyedd a gofal cleifion yn ysbrydoledig. Maen nhw wir yn dangos sut y gall Gofal Sylfaenol arwain y ffordd wrth greu dyfodol gwyrddach ac iachach i Gymru.”

Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn tanlinellu ymrwymiad GIG Cymru i leihau ei ôl troed carbon ac yn amlygu’r rôl hanfodol y gall gofal sylfaenol ei chwarae wrth greu dyfodol iachach, mwy cynaliadwy.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here