22.3 C
Llanelli
Wednesday, July 15, 2026
Home hywel dda health board Prentis Gofal Iechyd wedi’i ddewis yn Llysgennad y Gymraeg

Prentis Gofal Iechyd wedi’i ddewis yn Llysgennad y Gymraeg

0
365
a00fa98c6db20bdf org
a00fa98c6db20bdf org

Mae Hanna Griffiths, prentis gofal iechyd y GIG yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, wedi’i dewis yn Llysgennad Prentisiaeth y Gymraeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ei rôl, fel Llysgennad Prentisiaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle ac annog eraill i wneud eu prentisiaeth yn ddwyieithog drwy greu cynnwys ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.

Mae Hanna yn ei hail flwyddyn o’i Chymhwyster Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2 y mae’n ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chefnogaeth ac anogaeth Lucy Breckon a’i thiwtoriaid o Goleg Sir Benfro. Gyda’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddi, mae Hanna yn ei chael hi’n bwysig i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, yn enwedig wrth gyfathrebu â chleifion ar y ward.

Dywedodd Hanna “Mae gan lawer o’n cleifion ar y ward ddementia neu glefyd Alzheimer, sy’n aml yn golygu mai dim ond yn eu hiaith gyntaf y gallant gyfathrebu. Mae siarad â’n cleifion Cymraeg yn eu dewis iaith yn bwysig i wneud iddynt deimlo’n fwy cyfforddus.”

Ychwanegodd Amanda Glanville, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Pobl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “Rwy’n falch iawn o glywed am ddewis Hanna yn llysgennad. Mae’n dangos yn glir ei hangerdd dros y Gymraeg a pha mor bwysig ydyw i’n cleifion.”

Mae Coleg Cymraeg wedi penodi cyfanswm o 16 llysgenhadon prentisiaeth newydd ledled Cymru, ac mae Elin Williams, Rheolwr Marchnata’r Coleg yn falch o weld y cynllun yn tyfu. Dywedodd hi:

“Mae’r cynllun llysgenhadon prentisiaeth yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o ddarparwyr prentisiaethau a phrentisiaid yn frwdfrydig iawn i fod yn rhan o’r cynllun. Rydym bellach yn cydweithio â darparwyr prentisiaethau o bob rhan o Gymru, ac mae’n wych gweld y berthynas yn datblygu.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Hanna a’r llysgenhadon newydd eraill ac yn mawr obeithio y byddant yn gallu ysbrydoli eu cyfoedion yn eu gweithle a thu hwnt i ddefnyddio a bod yn falch o’u sgiliau dwyieithog.”

Mae defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn hollbwysig i gadw sgiliau Hanna, er mwyn iddi allu siarad â chydweithwyr, cleifion ac ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg, gyda’r nod o wella eu profiadau yn yr ysbyty. Mae hi wedi creu blog, ar gyfer Coleg Sir Benfro, am ei phrofiadau ar y ward a phwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg.

I ddarganfod mwy am ba brentisiaethau y gall y bwrdd iechyd eu cynnig i chi, ewch i: Academi Brentisiaeth – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.