9.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home hywel dda health board Y camau nesaf i lwyddiant yn y dyfodol

Y camau nesaf i lwyddiant yn y dyfodol

0
397
87895e654613f1f0 org
87895e654613f1f0 org

Roedd myfyrwyr o bob rhan o Sir Gaerfyrddin yn gallu siarad â staff gwasanaethau iechyd a gofal lleol am eu gyrfaoedd yn y dyfodol mewn digwyddiad a gynhaliwyd ym mis Ionawr.

Trefnwyd y digwyddiad, ‘Camau nesaf at lwyddiant y dyfodol’, sydd wedi’i anelu at ddisgyblion Blwyddyn 10, gan Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth y sir, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd chwe deg pump o gyflogwyr yn bresennol.

Rhoddodd y digwyddiad gipolwg i fyfyrwyr ar yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael yn ein GIG lleol.  Roedd myfyrwyr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r gweithwyr iechyd proffesiynol, megis defnyddio modelau beichiogrwydd a geni ffetws, modelau deintyddiaeth, asesiadau fasgwlaidd/niwrolegol gan ddefnyddio offer uwchsain doppler Huntleigh, prawf pen monofilament a fforc diwnio.

Bu 12 adran o’r bwrdd iechyd yn arddangos amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa, gan gynnwys nyrsio, cyllid, gwasanaethau digidol, podiatreg, patholeg/gwyddorau gwaed, gweithlu’r dyfodol.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, a Dirprwy Brif Weithredwr, “Rwy’n falch o’n timau a gefnogodd y digwyddiad hwn. Maent wedi helpu i ysbrydoli’r myfyrwyr i ddewis gyrfa ym maes Iechyd gobeithio, ar ôl dangos iddynt y rolau amrywiol niferus o fewn ein bwrdd iechyd.”

Dywedodd Lydia Rhys, Cydlynydd Datblygiad Personol a Chymunedol ar gyfer Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth “Rwy’n ddiolchgar i’r holl gyflogwyr lleol a fynychodd, gan gynnwys y rhai o’n GIG lleol. Roedd ein pobl ifanc yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i ddeall ymhellach y rolau sydd ar gael ym maes gofal iechyd.”

Mynychodd tua 1,500 o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Ysgol Coedcae, Ysgol Emlyn, Ysgol Bryngwyn, Ysgol Dyffryn Taf ac Ysgol Dyffryn Aman ac Ysgol Glan Y Môr.

I ddarganfod mwy am gyfleoedd gyrfa yn y bwrdd iechyd, ewch i:

Gweithio i ni – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.