Anrhydeddu pedwar o wirfoddolwyr ardal Eisteddfod yr Urdd 2025

1
906
Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd 2025 Honorary Presidents scaled
Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd 2025 Honorary Presidents scaled

Gyda golygon y genedl yn troi at Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 ddiwedd y mis, mae Urdd Gobaith Cymru yn cymryd y cyfle i ddiolch i griw o wirfoddolwyr lleol am werth degawdau o waith gwirfoddol i’r Mudiad.

Bob blwyddyn fe anrhydeddir unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r Urdd. Eleni, tro rhanbarth Gorllewin Morgannwg yw hi a bydd pedwar gwirfoddolwr yn derbyn teitl Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd 2025 mewn seremoni arbennig ar faes yr ŵyl.

Pedwar Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 fydd Davida Lewis, Janet Jones, Menna Bennett Joynson a Wayne Pedrick.

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae’r pedwar sy’n cael eu anrhydeddu eleni wedi rhoi dros 160 o flynyddoedd o gefnogaeth i’r Mudiad. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith a chyrhaeddiad yr Urdd, ac edrychwn ymlaen yn arw at gydnabod ymrwymiad a gwaith y pedwar mewn seremoni arbennig ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Llun, 26 Mai.”

Davida Lewis

Wedi ei magu yn Abertawe, mae Davida Lewis wedi treulio’i hoes ym mro’r Eisteddfod. Ffurfiodd ddau gôr lleol; Côr Plant Waunarlwydd ym 1965 a Chôr Waunarlwydd ym 1970. Mae’r corau wedi cael cryn lwyddiant yn lleol ac yn rhyngwladol ers 60 mlynedd. Mae’r corau’n parhau a Davida bellach wedi trosglwyddo’r awenau arweinyddol ac yn mwynhau bod yn aelod. Bydd dwyn y teitl Llywydd Anrhydeddus yn yr Eisteddfod yn ei hardal yn goron ar y cyfan, wedi iddi gael llu o brofiadau a llwyddiant mewn Eisteddfodau dros y degawdau. 

Janet Jones

Wedi’i magu yng Nghasllwchwr, mae Janet yn byw yng Nghastell-nedd ers dros 40 mlynedd. Mae cerddoriaeth yn ei gwaed a dros y blynyddoedd bu’n cystadlu’n gyson ar lwyfannau gan ennill sawl prif wobr yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Janet yw Arweinydd ‘Parti Llwchwr’. Mae hi wedi rhannu ei doniau cerddorol wrth hyfforddi plant i ganu a pherfformio mewn Eisteddfodau a digwyddiadau lu dros y blynyddoedd. Sefydlodd ‘Adran Nedd’ ym 1993 er mwyn cynnig profiadau diwylliannol a Chymreig i ieuenctid yr ardal, ac yn dilyn llwyddiant y grŵp, sefydlodd ‘Uwch Adran Nedd’ i sicrhau bod y profiadau’n parhau.

At hyn mae wedi bod yn aelod gweithgar o Bwyllgor Cylch Nedd ac Afan, ac yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Rhanbarthol. Janet yw un o Is-gadeiryddion Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Dur a Môr eleni.

Menna Bennett Joynson

Cafodd Menna ei geni yn Llanidloes cyn i’w theulu symud i Lanuwchllyn ac yna Aberystwyth. Fe’i magwyd ar aelwyd gerddorol a diwylliedig, ac roedd canu ac Eisteddfota yn ei gwaed ers yn ifanc. Mae wedi cael cryn lwyddiant yn y maes canu cerdd dant yn Eisteddfodau’r Urdd, ac yn ystod ei swydd fel athrawes gerdd yn Rhydfelen cafodd gyfle i hyfforddi’r disgyblion i ganu a chystadlu yn yr Eisteddfod.

Ym 1976 symudodd Menna i Abertawe gyda’i gŵr a magu tri o blant yn lleol. Sefydlodd Menna Adran Sgeti yn 1978 a ddatblygodd wedyn yn Aelwyd yr Urdd Sgeti, ac aethant ymlaen i gael cryn lwyddiant yn Eisteddfodau’r Urdd. Penodwyd Menna yn athrawes gerdd yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac yn athrawes delyn beripatetig yn yr ardal. Mae’n nodi bod ei dyled a’r holl brofiadau mae hi a’i disgyblion wedi cael trwy’r Urdd wedi cyfoethogi ei bywyd yn fawr.

Wayne Pedrick

Profiad cyntaf Wayne o Eisteddfod yr Urdd oedd trwy ei blant Lisa ac Aled, fel disgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Gwaun Cae Gurwen ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Roedd y ddau wrth eu boddau’n cystadlu, gydag Aled yn cipio gwobr Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2003 yn Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan.

Roedd Wayne yn gweithio yn y gwaith glo lleol. Ym 1998 cafodd swydd fel athro pres peripatetig, gan annog a chefnogi ei ddisgyblion i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, fel unawdwyr ac fel ensemble.

Penodwyd Wayne yn Bennaeth y Gwasanaeth Cerdd Beripatetig yn Nedd Port Talbot yn 2016 ac mae’n helpu rhedeg tair cerddorfa ieuenctid ac iau, tri band pres ieuenctid ac iau a Chôr Ieuenctid a Band Mawr. Mae Wayne hefyd yn rhoi o’i amser i feirniadu cystadlaethau offerynnol mewn Eisteddfodau Rhanbarth a Chenedlaethol.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr yn cael ei chynnal ym Mharc Margam rhwng 26 a 31 Mai. Gellir prynu tocynnau i Eisteddfod yr Urdd, gan gynnwys Gŵyl Triban fydd yn cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod ar www.urdd.cymru/eisteddfod


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

1 COMMENT

  1. Notification: Operation 1.356700 BTC. Continue =>> https://graph.org/Binance-04-15?hs=e4619af01e8eace7c000514c0de99d11&Notification:Operation 1.356700 BTC. Continue=>>https://graph.org/Binance-04-15?hs=e4619af01e8eace7c000514c0de99d11&

    4grr6b

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here