Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu cwrs Deall Canlyniadau Gwaed i Ruth Williams, Technegydd Fferyllfa Gwasanaethau Canser.
Mae cwrs Diweddariad M&K yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ddeall canlyniadau hematoleg a biocemeg arferol yn llawn.
Ruth yw’r technegydd fferyllfa cyntaf i weithio o fewn tîm gwasanaethau canser Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae’n adolygu ac yn archebu profion gwaed yn rheolaidd wrth fonitro goddefgarwch ac ymateb claf i driniaeth canser.
Dywedodd Ruth: “Rwy’n hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i mi gymryd rhan yng nghwrs Deall Canlyniadau Gwaed Diweddariad M&K.
“Mae’r cwrs wedi rhoi’r cyfle i mi wella fy nealltwriaeth a theimlo’n fwy hyderus wrth gyfleu canlyniadau i gleifion. Rwyf bellach yn gallu archebu a dehongli profion gwaed yn gywir i sicrhau cost-effeithiolrwydd a diogelwch triniaethau canser.
“Mae’r dysgu hwn wedi helpu i gynyddu capasiti clinigau cleifion allanol a rhyddhau clinigwyr lefel uwch i weld cleifion cymhleth neu newydd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Am ragor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i
www.hywelddahealthcharities.org.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















