10.1 C
Llanelli
Saturday, May 2, 2026
Home Local News Ceredigion News Ysgolion Ceredigion yn cael eu cydnabod wrth i gynllun peilot Gwobr Ansawdd...

Ysgolion Ceredigion yn cael eu cydnabod wrth i gynllun peilot Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru fraenaru’r ffordd ar gyfer ei chyflwyno’n genedlaethol 

0
156
Schools across Wales recognised as Careers Wales Quality Award pilot paves the way for national rollout

Mae ysgolion yng Ngheredigion yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i gryfhau addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith drwy Wobr Ansawdd Gyrfa Cymru (GAGC) – wrth i’r cofrestru agor i fwy o ysgolion ledled y wlad allu cymryd rhan.  

Ers ei lansio ym mis Medi 2023, mae 66 o ysgolion a lleoliadau o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan yng nghynllun peilot y gwobrau, gan gynnwys ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, a darpariaethau addysg heblaw yn yr ysgol. Roedd hyn yn cynnwys Ysgol Gyfun Penweddig, Ysgol Gymunedol Cei Newydd, ac Ysgol Gymunedol Llanilar. 

Schools across Wales recognised as Careers Wales Quality Award pilot paves the way for national rollout

Mae ysgolion peilot eisoes yn gweld buddion, gydag adborth yn dangos:

  • Arweinyddiaeth a chynllunio cryfach ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Mwy o lais i ddysgwyr
  • Gwell ymgysylltu â rhieni, cyflogwyr a chymunedau
  • Mwy o hyder gan athrawon wrth gyflwyno dysgu sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd.

Mae’r canlyniadau cynnar hyn yn dangos sut y gall y wobr gefnogi ysgolion i adeiladu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ystyrlon o ansawdd uchel i ddysgwyr 3 i 16 oed sy’n gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru.

Careers Wales Quality Award (CWQA) logo

Wrth i’r cyfnod peilot ddod i ben, mae cofrestru bellach ar agor i ysgolion newydd gymryd rhan yng Ngwobr Ansawdd Gyrfa Cymru o fis Medi 2026.

Mae’r wobr wedi’i strwythuro ar draws tri cham – arweinyddiaeth, datblygiad ac effaith – gan arwain ysgolion o osod dull strategol clir ar gyfer addysg gyrfaoedd, hyd at ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y cwricwlwm, ac yna dangos y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i ddysgwyr.

Mae ysgolion o’r cynllun peilot wedi gweithio’n agos gyda chydlynwyr cwricwlwm Gyrfa Cymru i helpu i lunio a mireinio’r wobr cyn ei chyflwyno’n genedlaethol. Bydd y lansiad cenedlaethol llawn yn cyflwyno lefelau gwobrau efydd, arian ac aur, gan gynnig hyblygrwydd ac ar yr un pryd yn cydnabod cyflawniadau a chynnydd ysgolion wrth ddatblygu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith o ansawdd uchel.

Dywedodd Mark Owen, Pennaeth Gwasanaethau i Randdeiliaid Gyrfa Cymru: “Hoffwn longyfarch pob ysgol a lleoliad sydd wedi cymryd rhan yng nghynllun peilot Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru. Mae eu hymrwymiad a’u parodrwydd i gydweithio wedi bod yn hanfodol wrth ein helpu ni i lunio gwobr sy’n cefnogi ysgolion yn effeithiol.

“Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith o ansawdd uchel yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu dysgwyr i ddeall eu hopsiynau a datblygu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. Mae’r wobr ansawdd yn rhoi fframwaith clir a chefnogol i ysgolion i ymgorffori’r gwaith hwn ar draws eu cwricwlwm, mewn ffordd sy’n gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru.

“Mae’r effaith gadarnhaol rydym eisoes yn ei gweld yn galonogol iawn i ni ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy o ysgolion i gymryd rhan wrth i’r wobr agor yn ehangach yn ddiweddarach eleni.”

I gofrestru eich diddordeb mewn dechrau’r wobr ym mis Medi, llenwch y ffurflen hon, neu ewch i wefan Gyrfa Cymru am ragor o wybodaeth. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here