Mae rhaglen SBARC Ceredigion wedi dod i ben wedi cyfnod llwyddiannus o gefnogi entrepreneuriaid, busnesau bach, a phobl greadigol ledled y sir.
Dros gyfnod y rhaglen, mae SBARC Ceredigion wedi helpu i danio uchelgais busnes ledled y sir drwy gefnogi 140 o entrepreneuriaid y dyfodol, darparu cymorth busnes uniongyrchol i 36 o fentrau, a sbarduno 41 o fusnesau i fabwysiadu technolegau neu brosesau newydd.
Roedd effaith y gefnogaeth yn glir ar lawr gwlad. Cyflwynodd 18 o fentrau gynnyrch neu wasanaeth newydd neu well; aeth 14 o fusnesau i farchnadoedd newydd; nododd 12 o fentrau welliannau mewn cynhyrchiant; a sefydlwyd 4 busnes newydd o ganlyniad uniongyrchol i’r gefnogaeth.
Roedd elfen gref o ymgysylltu cymunedol wrth wraidd y rhaglen hefyd, gyda 7 digwyddiad a gweithgaredd lleol yn cael eu cynnal, gan gynnwys teithiau busnes, gweithdai rhyngweithiol, a sesiynau ysbrydoledig i bobl ifanc.
Cynhaliwyd gweithdai mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid ledled Ceredigion, gan gynnwys Ysgol Penglais, Ysgol Bro Teifi, Uned Explorer Aberaeron, Theatr Felin-fach, a Fforwm Ieuenctid CFfI Ceredigion, gan annog pobl ifanc i archwilio syniadau busnes ac ystyried llwybrau entrepreneuraidd a chreadigol.
Mae SBARC Ceredigion yn fenter entrepreneuriaeth uwch a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (Llywodraeth y DU), ac fe’i gweinyddir gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Ceredigion.
Wrth sôn am effaith y rhaglen, dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau gyda Mentera:
“Mae SBARC Ceredigion wedi bod yn enghraifft gref iawn o’r hyn sy’n bosibl pan fydd pobl, syniadau a chefnogaeth ymarferol yn dod at ei gilydd. Rydym wedi gweld creadigrwydd, hyder ac uchelgais yn tyfu ymhlith entrepreneuriaid y dyfodol a busnesau sefydledig fel ei gilydd, gan adael gwaddol cadarn i economi leol Ceredigion.”
Dywedodd Tomoko Otani, un a gymerodd ran yn SBARC Ceredigion:
“Fe wnaeth cymryd rhan yn rhaglen SBARC helpu i droi fy syniad busnes yn rhywbeth go iawn. Anogodd y gefnogaeth fi i gymryd camau ymarferol, i ddatblygu fy nghynlluniau busnes, ac i archwilio sut gallai fy ngwaith greu effaith gymdeithasol gadarnhaol.”
Ffeithiau allweddol:
- Cefnogwyd 140 o entrepreneuriaid y dyfodol
- Cafodd 36 o fusnesau gymorth busnes uniongyrchol
- Mabwysiadodd 41 o fentrau dechnolegau neu brosesau newydd
- Cyflwynodd 18 o fentrau gynnyrch neu wasanaeth newydd neu well
- Aeth 14 busnes i farchnadoedd newydd
- Fe wnaeth 12 busnes wella eu cynhyrchiant
- Sefydlwyd 4 busnes newydd
- Cynhaliwyd 7 digwyddiad a gweithgaredd lleol
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















