11.9 C
Llanelli
Sunday, October 25, 2026
Home Newyddion Lle Gyrfa Cymru yn lansio adnoddau i ysgolion cynradd i ysbrydoli plant am...

Gyrfa Cymru yn lansio adnoddau i ysgolion cynradd i ysbrydoli plant am y byd gwaith

0
701
Discovery Map
Discovery Map

Mae Gyrfa Cymru wedi lansio cyfres o adnoddau i ysgolion cynradd o’r enw ‘Dinas Gyrfaoedd’, sy’n cynnwys cwisiau, taflenni ffeithiau a fideos byr am wahanol swyddi a sectorau diwydiant.

 

Fe’u crëwyd i ddysgu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 am yrfaoedd a’r byd gwaith, ac mae’r adnoddau bellach ar gael i athrawon eu lawrlwytho a’u defnyddio yn y gwersi.

 

Cynlluniwyd yr adnoddau’n benodol i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd i Gymru 2022 sy’n cynnwys ystod o themâu a phynciau y gellir eu defnyddio mewn ffordd hwyliog, hawdd ac atyniadol.

 

Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth ac offer rhyngweithiol i athrawon eu defnyddio mewn gwersi gan gynnwys Mathemateg a Rhifedd, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Gwyddoniaeth a Thechnoleg a’r Celfyddydau Mynegiannol.

 

Mae’r prif offeryn dysgu yn canolbwyntio ar y ‘Map Darganfod’ sy’n dangos adeiladau o fewn y ‘Ddinas Gyrfaoedd’ sy’n cynrychioli prif sectorau diwydiant, megis siopau i gynrychioli swyddi manwerthu, canolfan ailgylchu i ddangos swyddi yn y maes ynni a’r amgylchedd a hyb arloesol i ddangos swyddi ym maes gwyddorau bywyd.

 

Wrth i’r flwyddyn ysgol fynd heibio ac wrth i’r athrawon integreiddio’r adnoddau yn eu gwersi, y nod yw cael y dosbarth i ddysgu am yr holl swyddi a sectorau a welir yn y Ddinas Gyrfaoedd erbyn diwedd tymor yr haf. 

 

Gellir addasu’r map yn dibynnu ar gymuned leol yr ysgol a’r farchnad lafur leol a gall y disgyblion ei ddefnyddio i archwilio’r Ddinas Gyrfaoedd a’i swyddi drwy gydol y flwyddyn ysgol.  Er enghraifft, gallai’r ysgolion sydd mewn rhannau mwy gwledig o Gymru ganolbwyntio ar y sectorau twristiaeth a ffermio a gall ysgolion trefol gael mwy o swyddfeydd ar eu map.

 

Cafodd yr adnoddau, a dreialwyd mewn ysgolion yng ngogledd Cymru i ddechrau, groeso mawr gan athrawon.  Meddai un athro a gymerodd ran yn y cynllun peilot “yn sicr mae yna flwch mewn addysg gynradd a bydd y disgyblion yn elwa o gael gwybodaeth am swyddi a chyflogau i’w hysgogi a dod yn ddysgwyr mwy annibynnol”.

 

Meddai Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence: “Bydd yr adnoddau newydd yn helpu disgyblion ysgolion cynradd i ddysgu mwy am yr ystod o swyddi a chyfleoedd sydd ar gael ar eu cyfer yn y dyfodol.

 

“Rydym wedi cynllunio’r adnoddau i fod yn rhan hyblyg o gwricwlwm yr ysgol a gall yr athrawon eu cynnwys yn eu cynlluniau gwersi presennol bob tymor. Yn anad dim, bydd ganddynt y rhyddid i ddewis i ba raddau yr hoffent gynnwys y wybodaeth a ddarperir yn y pecyn adnoddau er mwyn ychwanegu at gyd-destun dysgu’r dosbarth.

 

“Mae’n bwysig dechrau codi dyheadau pobl ifanc drwy ehangu eu gorwelion pan fyddant yn ifanc a’u helpu i fynd i’r afael â rhagdybiaethau a stereoteipiau’n ymwneud â’r byd gwaith.”

 

Ychwanegodd athro arall a gymerodd ran yn y cynllun peilot: “cawsom ddwy wers unigol i ddechrau ac rydym wedi trefnu’r arddangosfa. 

 

“Gallaf weld nawr sut y gallwn ddysgu am yrfaoedd newydd drwy’r pynciau a’u hychwanegu at yr arddangosfa”.

 

Mae’r adnoddau bellach ar gael i’w lawrlwytho drwy adran Hwb Gyrfa Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol gwefan Gyrfa Cymruhttps://gyrfacymru.llyw.cymru/gweithwyr-gyrfaoedd-proffesiynol

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.