15.2 C
Llanelli
Friday, May 29, 2026
Home Newyddion Lle Astudiaeth newydd yn dangos sut gallai mân algâu fod yn hollbwysig i...

Astudiaeth newydd yn dangos sut gallai mân algâu fod yn hollbwysig i economi gylchol

0
616
Alg Ad
Alg Ad

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu y gallai mân algâu chwarae rôl hollbwysig wrth ailddefnyddio gwastraff bwyd a ffermydd yn llwyddiannus ar raddfa fawr, yn ogystal â chreu miloedd o swyddi. 

Mae mân algâu yn gelloedd ffotosynthetig microsgopig a geir yn naturiol mewn cefnforoedd a llynnoedd. Fodd bynnag, mae grŵp ymchwil ALG-AD y Brifysgol yn esbonio mewn erthygl newydd sut gellir defnyddio maetholion dieisiau o wastraff bwyd i dyfu algâu. Mae’r algâu’n trawsnewid y maetholion yn brotein y gellir ei fwydo i anifeiliaid yn lle protein soia llai cynaliadwy. 

Un o nodau allweddol prosiect ALG-AD, dan arweiniad y Coleg Gwyddoniaeth, yw ymchwilio i’r broses economi gylchol hon sy’n defnyddio maetholion i gynhyrchu adnodd gwerthfawr arall – gan ddefnyddio gwastraff i greu cyfoeth.  

Meddai Dr Claudio Fuentes-Grünewald, prif awdur y papur: “Mae rhoi dulliau cylchol ar waith ym maes diwydiant drwy leihau gwastraff ac ailddefnyddio adnoddau i’r eithaf yn hollbwysig i’r amgylchedd. 

“Mae meithriniadau mân algâu’n arbennig o dda o ran adfer gwastraff ac maent hefyd yn anhygoel o hyblyg o ran prosesu a defnyddio’r biomas a gynhyrchir.” 

Mae’r erthygl, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn uchel ei fri Bioresource Technology, yn manylu ar waith yr ymchwilwyr i ddangos y gall mân algâu dyfu ac adfer gwastraff organig mewn ffordd newydd. 

Hyd yn hyn, mae gallu mân algâu i ddatrys problemau amgylcheddol wedi cael ei ddangos ar raddfa gymharol fach yn unig. Gall mân algâu dyfu a chynhyrchu biomas mewn ffyrdd gwahanol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, ac mae ALG-AD wedi llwyddo i ddangos cyfuniad o ddau ddull tyfu gwahanol ar raddfa fawr yn ei gyfleuster treialu yn y DU yn Langage AD, Plymouth, Lloegr. 

Nod nesaf y tîm yw prosesu’r biomas algaidd ar gyfer porthiant anifeiliaid a chynhyrchion gwerthfawr eraill. 

Mae gwaith dadansoddi ar y biomas hwn wedi datgelu ei fod yn meddu ar fwy o brotein na’r cynnyrch cyfatebol sy’n cael ei dyfu’n fasnachol, ac mae’n ddiddorol nodi hefyd fod carotenoidau – moleciwlau â gallu hysbys i hybu iechyd – yr algâu yn cynyddu. 

Ar hyn o bryd, mae biotechnoleg ym maes mân algâu yn dal i ddatblygu, ond fe’i defnyddir yn fwy helaeth ledled y byd, mewn meysydd sy’n amrywio o nwyddau fferyllol a chosmetigau i borthiant a biosymbylwyr. 

Ychwanegodd Dr Fuentes-Grünewald: “Mae ein gwaith ar ALG-AD wedi profi y gellir defnyddio mân algâu ar raddfa briodol i gynhyrchu biomas o safon sy’n cael ei dyfu’n gynaliadwy ac sy’n gallu cael ei ddefnyddio at sawl diben masnachol.  

“Rydym yn credu y gallai’r dechnoleg hon adfer miloedd o dunelli o weddillion treuliad anaerobig, heb beryglon llygredd sy’n gysylltiedig â storio’r gweddillion neu eu dychwelyd i’r tir. Yn y pen draw, gallai dull diwydiannol newydd economi gylchol gynhyrchu llawer o fiomas ar gyfer porthiant anifeiliaid, yn ogystal â chreu miloedd o swyddi cynaliadwy newydd.” 

Mae ALG-AD yn brosiect pedair blynedd a ariennir gan Interreg NWE sy’n dod â gwyddonwyr a pheirianwyr at ei gilydd o 11 o bartneriaid gwahanol mewn pedair gwlad ledled Gogledd-orllewin Ewrop. 

Mae’r tîm bob amser yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd am archwilio dulliau o dyfu algâu. Ceir rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â rheolwr y prosiect, Louise Hall, neu Dr Fuentes-Grünewald


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here