22.5 C
Llanelli
Friday, August 14, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Mudiadau Cymraeg yn gosod her i Gymreigio technoleg

Mudiadau Cymraeg yn gosod her i Gymreigio technoleg

0
645
Outlook nsbjxsmz
Outlook nsbjxsmz

Mae staff mudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn ymuno mewn her fawr dros wyliau’r ‘Dolig i gyfrannu 50 awr o leisiau at Common Voice Cymraeg, sy’n datblygu’r Gymraeg ym maes technoleg clyfar.

Bydd staff ac aelodau yr Urdd, Comisiynydd y Gymraeg, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Nant Gwrtheyrn, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Mudiad Meithrin, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, S4C, Llywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith i gyd yn cyfrannu drwy recordio o leiaf 5 clip neu ddilysu o leiaf 5 clip ar wefan Common Voice Cymraeg fel rhan o her ‘Defnyddia Dy Lais’.

Un o’r rhai fydd yn cyfrannu yw Nia ap Tegwyn, Uwch Swyddog Iaith Menter Gorllewin Sir Gâr. Dywed;

“Fel gweithwyr sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mae’n bwysig ac yn fraint i gyfrannu at Common Voice, gan arwain drwy esiampl er mwyn sicrhau bod dyfeisiadau’n gallu deall a chyfathrebu yn y Gymraeg yn y dyfodol.”

Er mwyn cyrraedd y nod mae’r mudiadau yn gofyn i bobl Cymru, o bob oed, i gymryd rhan yn yr her drwy recordio neu dilysu lleisiau yn adrodd brawddegau Cymraeg.

Bwriad Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, Meddal.com a chwmni Mozilla yw defnyddio’r lleisiau hyn i greu cronfa ddata rhydd fydd yn galluogi cwmnïau bach a mawr ym maes technolegau clyfar i gyflwyno’r Gymraeg i’r dyfeisiadau technoleg clyfar. Yn ogystal â chynorthwyo is-deitlo awtomatig yn Gymraeg, bydd y gronfa ddata yn galluogi datblygiad pellach yn nhechnolegau adnabod llais, megis ap Macsen, i ddeall ac ymateb i mwy o gwestiynau yn Gymraeg.

Mae ap Macsen yn gynorthwyydd personol Cymraeg a grëwyd gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor. Ar hyn o bryd mae’r ap yn gallu adrodd y newyddion, y tywydd, chwarae cerddoriaeth Gymraeg a mwy ar alw – i gyd diolch i’r cynllun Common Voice.

Dywed Rhoslyn Prys o Meddal.com;

“Mae wedi dod yn amlwg eleni mor fawr yw ein dibyniaeth ar dechnoleg, gyda’r defnydd o dechnolegau clyfar yn dod yn ran ymarferol ym mywydau pob dydd nifer ohonom. Dyma gyfle i ni gyd fel Cymry Cymraeg i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael lle yn y byd technoleg. Drwy wneud un peth bach gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth mawr i le’r Gymraeg mewn technolegau adnabod lleferydd.”

Er mwyn cymryd rhan, ewch i wefan commonvoice.mozilla.org/cy a gallwch ddechrau recordio neu ddilysu mewn eiliadau a chofiwch rannu eich profiad ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DefnyddiaDyLais.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.