16 C
Llanelli
Tuesday, October 13, 2026
Home Farming Cynnal y traddodiad ffermio teuluol, gyda help llaw gan raglen Cyswllt Ffermio

Cynnal y traddodiad ffermio teuluol, gyda help llaw gan raglen Cyswllt Ffermio

0
599
Gwion Jenkins scaled
Gwion Jenkins scaled

Dilyn yn ôl troed ei dad a’i fam!  Mae’r ffermwr ifanc Gwion Jenkins (20) yn benderfynol o adeiladu ar y traddodiad hir o ddatblygu’r fferm deuluol, Rhosfach yng Nghlunderwen.  Ac fel ei fam a dad, mae’n manteisio ar yr hyfforddiant, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio i helpu!

 

Mae rhieni Gwion bellach yn cadw buches odro o 150 o wartheg Holstein Friesian pedigri – buches Beca – ar y fferm y prynodd ei dad Iwan a’i fam Meinir ym 1994 pan fentrodd Iwan  ar ei ben ei hun am y tro cyntaf. Gan ddechrau gyda dim ond 40 o wartheg godro y rhoddwyd Iwan gan ei rieni mewn daliad 86 erw newydd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r teulu Jenkins, gan gynnwys Gwion a’i frawd Guto sy’n gweithio oddi ar y fferm ond sy’n helpu pan mae’n gallu, wedi cynyddu’r fuches yn raddol. Maent yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd a pharhau i gynyddu nifer y stoc yn Rhosfach, sydd heddiw’n cynnwys mwy na 270 erw sy’n gyfuniad o dir sy’n eiddo iddynt ac yn dir rhent.

 

Dychwelodd Gwion i’r fferm yn llawn amser ar ôl ennill ei brentisiaeth Lefel 3 mewn amaethyddiaeth ar gampws Gelli Aur – Coleg Sir Gâr. Cawsant eu heffeithio’n arw gan y cyfyngiadau ar symud anifeiliaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a oedd ar y pryd yn lleihau nifer y gwartheg y gallent eu prynu, a hynny, maes o law’n arwain at ostyngiad sylweddol yn y llaeth yr oeddent yn ei gynhyrchu, ond bellach mae’r teulu Jenkins yn bridio eu holl stoc ifanc eu hunain.  Erbyn heddiw maent yn cadw tua 290 o wartheg, gyda 150 o’r rheini’n cynhyrchu tua7,600 litr y flwyddyn a werthir i Dairy Partners, Castell Newydd Emlyn.

 

Er mai godro yw prif ffynhonnell incwm y teulu, mae Gwion wedi datblygu diddordeb brwd yn niadell y fferm o 140 o famogiaid Miwl Cymreig croes Cheviot. Ar hyn o bryd maen nhw’n cael eu pesgi ar y fferm cyn i’r ŵyn gwryw gael eu gwerthu i ladd-dy trwy ganolfan gasglu leol. Mae Gwion yn cadw’r holl famogiaid ar gyfer bridio ac yn raddol mae’n ceisio gwella ansawdd a chynyddu maint y ddiadell. Mae’n benderfynol o ddefnyddio hyfforddiant Cyswllt Ffermio i ddysgu popeth am iechyd a pherfformiad defaid.

 

“Dros y blynyddoedd, mae fy rhieni a minnau wedi elwa cymaint o gymryd rhan yn rhaglenni Cyswllt Ffermio, ac rwyf eisiau dysgu popeth o fewn fy ngallu i ennill sgiliau newydd neu ychwanegu at yr hyn dw i’n ei wybod eisoes.”

 

Mae hyn wedi amrywio o fynychu digwyddiadau a diwrnodau agored i amrywiaeth eang o hyfforddiant yn seiliedig ar bynciau ymarferol gan gynnwys hwsmonaeth anifeiliaid, tocio traed a thrin plaladdwyr, ynghyd â hyfforddiant busnes a TGCh ar ffurflenni TAW a gwblhawyd gan ei fam.

 

Yn ddiweddar, bu Gwion ar gwrs sylfaenol cneifio defaid am ddeuddydd, gyda chyllid o 80% drwy Cyswllt Ffermio. Gyda’i gais eisoes wedi’i dderbyn, mae bellach yn aros yn amyneddgar i gyfyngiadau Covid 19 ddod i ben fel y gall fynychu’r cwrs uwch cyn gynted ag y bydd ar gael. 

 

“Dysgodd ein grŵp gymaint yn ystod yr hyfforddiant cneifio sylfaenol, a dysgon ni i gyd sut i drin y defaid yn llawer mwy hyderus ac i gneifio’n gyflymach ac yn fwy effeithlon.”

 

 “Roedd hyfforddwr Gwlân Prydain yn brofiadol ac yn wybodus iawn, felly trawsnewidiodd y cwrs fy sgiliau gan olygu fy mod wedi gwneud llawer iawn o’r gwaith cneifio gartref y llynedd yn ogystal â gallu helpu rhai cymdogion hefyd.” meddai Gwion.

 

Mae Gwion hefyd yn edrych ymlaen at gael ei cv newydd wedi ei diweddaru drwy ddefnyddio Storfa Sgiliau, adnodd storio data ar-lein Cyswllt Ffermio, gan y bydd pob cwrs hyfforddi y mae’n ei ddilyn drwy Cyswllt Ffermio yn cael ei uwchlwytho ar ei ran.

 

“Bydd Storfa Sgiliau yn fy helpu i nodi unrhyw fylchau yn fy ngwybodaeth lle bydda i’n elwa o gael mwy o hyfforddiant.”

 

Mae cyllid o hyd at 80% ar gael i ffermwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer hyfforddiant Cyswllt Ffermio, gyda chyllid llawn ar gyfer hyfforddiant ar weithdai TGCh ac iechyd anifeiliaid.  Bydd y cyfnod ymgeisio sgiliau presennol ar agor o 9:00 ddydd Llun, 11 Ionawr tan 17:00, dydd Gwener, 26 Chwefror. I gael rhagor o wybodaeth am fwy na 70 o gyrsiau hyfforddi byr fydd ar gael unwaith y bydd hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ailddechrau, modiwlau e-ddysgu ac opsiynau ar-lein eraill, gan gynnwys hyfforddiant TGCh a gweithdai iechyd anifeiliaid, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio.

 

Mae Cyswllt Ffermio’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.