7.9 C
Llanelli
Thursday, March 19, 2026
Home Newyddion Lle Un o bob deg gweithiwr yn Nghymru ddim yn deall el hawliau...

Un o bob deg gweithiwr yn Nghymru ddim yn deall el hawliau yn y gweithle yn dda

0
484
Hannah Blythyn scaled
Hannah Blythyn scaled

Yn ôl ymchwil diweddar gan YouGov, nid oes gan un o bob deg gweithiwr a atebodd yr arolwg yng Nghymru yn deall ei hawliau yn y gweithle yn dda.

Mae’r arolwg, a gomisiynwyd gan TUC Cymru, wedi tynnu sylw at y prif feysydd lle’r oedd gweithwyr naill ai ddim yn deall eu hawliau yn y gweithle, neu’n pryderu amdanynt. Roedd 41 y cant o’r gweithwyr a ymatebodd i’r arolwg yn pryderu am gyflog teg, roedd 30 y cant yn pryderu am iechyd a diogelwch yn y gweithle a 27 y cant am yr hyblygrwydd sy’n cael ei gynnig yn y gweithle.

Dengys yr arolwg hefyd na fyddai 12 y cant yn gyfforddus yn trafod mater sy’n ymwneud â’r gwaith gyda rheolwr, tra bo 18 y cant yn credu nad oeddent yn cael eu trin yn deg yn y gwaith, neu ddim yn gwybod a oeddent yn cael eu trin yn deg ai peidio.

Roedd gweithwyr o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn fwy tebygol o deimlo’u bod yn cael eu trin yn annheg yn y gweithle – 19 y cant o’i gymharu â 12 y cant o ymatebwyr o gefndir gwyn – ac o anghytuno bod eu cyflogwr yn deall a pharchu eu hawliau cyflogaeth – 20 y cant o’i gymharu â 14 y cant o ymatebwyr o gefndir gwyn.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â phartneriaid cymdeithasol, sef TUC Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Siambrau Cymru a phartneriaid allweddol eraill, ACAS a Cyngor ar Bopeth er mwyn cyflwyno ymgyrch ar y cyd i gynyddu ymwybyddiaeth o’r cymorth  sydd ar gael i weithwyr a busnesau gan weithlu arbenigol.

Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw bod cyflogwyr, gweithwyr ac undebau llafur yn cydweithio i wneud y gweithle yn lle gwell, mwy diogel a thecach i bawb.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae’r data sydd wedi dod i’r amlwg yn yr arolwg hwn yn tanlinellu’r angen i weithwyr yng Nghymru gael gwell dealltwriaeth o’u hawliau yn y gweithle.

“Fel rhywun sydd â chefndir yn y mudiad undebau llafur, rwy’n gwybod o brofiad mai bod yn rhan o undeb llafur yw’r ffordd orau i weithwyr ddeall a sicrhau eu hawliau. Yn yr un modd, mae sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau yno i gefnogi cyflogwyr, gan eu helpu i gael gafael ar gyngor, cynrychiolaeth a dysgu gan gyfoedion, nid yn unig er mwyn goroesi, ond i symud ymlaen.”

Anogir gweithwyr i ymuno ag undeb llafur fel y ffordd orau o feithrin dealltwriaeth o’u hawliau a’u diogelu yn y gwaith.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae’r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at yr annhegwch sy’n wynebu degau o filoedd o weithwyr yn y gwaith – p’un a yw hynny yn ymwneud â chyflog teg, hyblygrwydd neu iechyd a diogelwch – a pha mor anghyfartal yw ein profiadau yn y gwaith.

Dyna pam ei bod yn hanfodol bod gweithwyr yn cael gafael ar yr wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Y ffordd orau o wneud hyn yw ymuno ag undeb. Mae undebau yn sicrhau bod gan y gweithwyr lais, a phan fo gan y gweithle undeb, mae’n fwy diogel.”

Anogir cyflogwyr hefyd i geisio cael cymorth a chyngor drwy ddod yn aelodau o sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau.

Er mwyn canfod rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth arbenigol sydd ar gael, ewch i: https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/hawliau-chyfrifoldebau-yn-y-gweithle.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.