5.8 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Local News Swansea news Arbenigwyr byd-eang yn uno i drafod breuddwyd hanesyddol Dora, un o gleifion...

Arbenigwyr byd-eang yn uno i drafod breuddwyd hanesyddol Dora, un o gleifion Freud

0
520
Mark Blagrove 2
Mark Blagrove 2

Bydd Mark Blagrove, arbenigwr cwsg Prifysgol Abertawe, yn cyflwyno digwyddiad arbennig i gofio achlysur arwyddocaol yn hanes dadansoddi breuddwydion. 

Bydd yr Athro Blagrove, cyfarwyddwr Labordy Cwsg Prifysgol Abertawe, yn ymuno รข’r artist Dr Julia Lockheart o Goleg Celf Abertawe i wahodd cynulleidfa ar-lein i drafod breuddwyd y gwnaeth claf ei rannu รข Sigmund Freud ym 1900. 

Bydd y digwyddiad ar-lein am ddim, a gynhelir o 4pm i 6pm ar 31 Ionawr, yn edrych yn รดl ar yr achlysur pan wnaeth un o gleifion Freud, a adwaenid fel Dora, rannu breuddwyd am deithio i angladd ei thad. Ar รดl adrodd stori’r breuddwyd, rhoddodd Dora y gorau i weld Freud, ac ers hynny mae hi wedi cael ei chlodfori fel arwres ffeministaidd! 

Bydd y digwyddiad Zoom yn trafod Dora โ€“ y mae’n hysbys erbyn hyn mai menyw ifanc o Fienna o’r enw Ida Bauer ydoedd โ€“ a’r berthynas rhwng ei bywyd cymdeithasol a’i bywyd personol a’r ddau freuddwyd y soniodd amdanynt wrth Freud. 

Bydd y breuddwyd yn cael ei ddarllen o’r un ystafell yn fflat Freud yn Fienna, sef Amgueddfa Sigmund Freud bellach, lle aeth Dora i weld Freud. 

Yn ystod y sgwrs, bydd pobl o bedwar ban byd hefyd yn gweld y breuddwyd yn cael ei baentio ac yn trafod y paentiad รข’r artist.  

Mae’r digwyddiad, sef Trafod a phaentio breuddwyd yr arwres ffeministaidd Dora am angladd ei thad,wedi cael ei drefnu gan yr Athro Blagrove a Dr Lockheart fel rhan o’u cydweithrediad rhwng gwyddoniaeth a chelf DreamsID.com (Dreams Illustrated and Discussed).  

Yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd o bedwar ban bydd, ceir panel o arbenigwyr, gan gynnwys seicolegwyr, haneswyr a seicdreiddwyr. Bydd aelodau’r panel fel a ganlyn: 

  • Dr Deirdre Barrett, Ysgol Feddygaeth Harvard, golygydd Dreaming, cyfnodolyn academaidd Cymdeithas Seicolegol America; 
  • Kate Novack, sydd wedi’i henwebu am wobrau Emmy am ei gwaith ffilm ac a wnaeth gyfarwyddo ac ysgrifennu Hysterical Girl, rhaglen ddogfen ddiweddar am Dora a’r mudiad cyfoes #metoo; 
  • Yr Athro Dany Nobus, Athro Seicoleg a Seicdreiddio, Prifysgol Brunel, Llundain, ac un o gymrodyr Amgueddfa Freud yn Llundain;  
  • Dr Brigitte Holzinger, seicotherapydd a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymwybod ac Ymchwil Breuddwydion Fienna; 
  • Katharina Adler, awdures y nofel Ida a gor-wyres i Ida Bauer / Dora; 
  • Yr Athro Sharon Sliwinski, athro diwylliant ac astudiaethau’r cyfryngau ym Mhrifysgol Gorllewin Ontario; 
  • Zora Wessely, sy’n astudio ym Mhrifysgol Fienna. 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad a chofrestru ar ei gyfer nawr


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.